THOMAS RICHARD THOMAS. SPOKANE, WASHINGTON.
Mae yn sicr y bydd yn ddrwg gan luaws o fechgyn Bethesda, Arfon, glywed am farwolaeth y Cymro anwyl, Thomas Richard Thomas, Gwernydd.Cyfarfyddodd a damwain echrydus yn y gwaith newydd sydd ar dueddau Llyn Llugwy.
Yr oedd y brawd ieuanc yn uchel iawn ei barch gan bawb, ac yn enwedig ei gydweithwyr a swyddogion y gwaith. Ataliwyd y gwaith am brydnawn y gwaith, ac aeth y gweithwyr a'r swyddogion yn un i'w angladd, gan ddodi plethdorch hardd ar fedd yr hwn oedd anwyl ganddynt, ac y mae yn sicr fod cydymdeimlad y Cymry yr ochr hon i'r dwr a'i fam weddw a'r teulu yn gyffredinol ar ol colli mab ag oedd mor hoff ganddi.
Er ei fod wedi cael ei arbed yn ymgarmesoedd y rhyfel ofnadwy ag sydd wedi terfynu, ac yn un o'r bechgyn a fu yn myned i mewn i Jerusalem pan orchfygwyd y Tyrciaid, a chael y fraint o fyned adref at ei fam anwyl, dyma fe wedi cael ei gymeryd yn ddyn ieuanc mewn ffordd annysgwyliadwy.
Y mae tri cefnder a chyfnither iddo yn byw yn y cyffiniau hyn, sef Richard Thomas, yn Spokane; Mrs. Philips, yn Chester; ac Arthur a William Thomas yn Big Bend. Gobeithio y caent nerth oll i ddal o dan y brofedigaeth lem, a thaened yr Arglwydd ei aden dros y fam a'r teulu yn eu trallod dwfn.
Gan R. J. Hughes.