JOHN THORMAN. BANGOR, NORTHAMPTON, PENNSYLVANIA.

"Difeius, dystaw, ei fywyd - hollol
Bwyllog yn ei ysbryd;
Glan ei fron, glew yn ei fryd,
A chyfaill hyd arch hefyd."

Cyflea yr uchod ein syniad am John Thorman, orphengdd ei yrfa, Ebrill 27ain, 1919, yn Bangor, Pennsylvania.

Un o blant Llanberis, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ydoedd ein cyfaill ymadawedig. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Glyn, lle sydd yn gorwedd rhwng Cwmyglo a Llanberis.

Croesodd y Werydd yn 1869, ac ymsefydlodd yn Bangor, Pennsylvania. Wrth edrych yn ol, yr oedd John Thorman yn un o'r hen frodorion fu yn siglo cryd Bangor, ac yn ei ddadblygu yn weithfaol, moesol a chrefyddol, fel nad oedd yn beth rhyfedd ei fod yn teimlo dyddordeb mawr yn y pentref; wedi treulio dros haner cant o flynyddoedd yn y lle. Adolygai gyda dyddordeb orphenol ei hanes, a'r modd yr ymddadblygodd mewn gwahanol gylchoedd. Darn rhamantus ganddo fyddai dadblygiadau y chwarelau yn Bangor, a dyfodiad y gwahanol beirianau a ddygwyd yno i chwalu a chwilio ar ol y llechen gain. Tyfodd ein cyfaill gyda phob gwelliant, ac aeth i mewn gyda phob cyfnewidiad, fel y daeth yn un o'r cymeriadau mwyaf profiadol ac ymddiriedol.

Yr oedd yn un o'r cymeriadau hyny na fyddai yn rhaid iddo fyned i chwilio am waith; y gwaith fyddai yn chwilio am dano ef. Cymerodd rhan flaenllaw yn nadblygiad moesol y pentref; teimlai yn falch o Bangor fel y mae heddyw o'i gyferbynu a'r peth a fu. Mae gweled a gwylio cynydd cymydogaeth, fel cynydd a dadblygiad y plentyn, yn cario gydag ef ddyddordeb mawr ,ac mae bod yn offerynol i droi cyfeiriad bywyd cymydogaeth, fel bywyd y personol a'r unigol, yn gosod gwerth arbenig i ni yn yr unigolion a'r cymydogaethol. Pwy ond hen athrawon, hen flaenoriaid, a hen weinidogion sydd a'r hawl benaf yn moesolrwydd a chrefyddolrwydd yr ardaloedd sydd heddyw yn ami eu haddoldai, a'u sefydliadau?

Mae yn ein mynwentau ugeiniau o dadau a mamau sydd wedi bod yn llafurus hau a digaregu y ffordd i'r cyfleusderau a'r sefydliadau sydd heddyw yn addurno ein trefydd at pentrefydd, nad oes ond ychydig yn gwybod am y llafurwyr. Priodol y gallwn ni ddweyd yr adnod, "Eraill a llafuriasant; ninau a aethom i mewn i'w llafur hwynt."

Dyma ein brawd ymadawedig, mor bell ag y gwn i, efe oedd y blaeinor hynaf yn Peniel, eglwys y Methodistiaid yn Bangor, ac mae ganddo ran fawr yn nadblygiad yr eglwys. Llawer to sydd wedi eu codi yn yr eglwys yn ystod ei ddyddiau ag sydd heddyw yn golofnau i'r eglwys gartref, yn ogystal a'r eglwysi sydd ar hyd a lled y wlad. Gwelodd, fel pawb sydd wedi teithio yr anialwch ar ei hyd, lawer ffynon a'i dyfroedd yn chwerw, ond pabellodd hefyd am ddyddiau lawer lle yr oedd ffynonau a phalmwydd yn tyfu.

Gadawyd ef yn weddw tuag un-mlynedd-ar-bymtheg yn ol; gwelodd roddi yn y bedd yn gynar un o'r genethod oedd fel canwyll ei lygad, ac un bachgen. Mae yn aros mewn hiraeth ar ol tad tyner a gofalus, bedwar o fechgyn a dwy ferch: Tom, John a Morris, pa rai ydynt yn Bangor; a Richard yn Washington, D. C.; Anne, priod y Parch. H. C. Griffiths, Lake Crystal, Minnesota; a Jane, yn Bangor, yr hon fu yn gofalu am y cartref.

Dydd Llun canlynol i'w farwolaeth, rhoddwyd i orwedd yn y bedd y rhan oedd farwol. Yr oedd tyrfa wedi ymgasglu i Peniel, lle cynaliwyd y gwasanaeth, dan arolygiaeth y Parch. J. W. Matthews, gweinidog. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. J. Williams (W.), ac un o weinidogion o'r eglwys Seisnig, a'r Parch. Abram Jones, Plainfield, New York. Nawdd y nef fyddo dros y plant, a'r eglwys a wasanaethodd am gynifer o flynyddoedd, a bydded yr aelodau oll o gyffelyb ysbryd ag ydoedd John Thorman.

Y Drych Awst 14eg 1919.