CATHERINE LLOYD WILLIAMS. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.

Bu farw Mrs. Williams, dydd Gwener, Ionawr 31ain, yn ei chartref, 70S Villa Street, wedi cyraedd yr oedran addfed o 86 mlwydd oed. Cafodd ei bendithio a chorff hardd a chadarn, ac iddi iechyd pur dda drwy ei hoes, hyd o fewn ychydig fisoedd yn ol, pryd y dechreuodd y babell gadarn ddadfeilio, ac amlwg ydoedd ei bod yn myned i lawr yn raddol i gyfeiriad y glyn, myned yn dawel ac yn berffaith sicr, gan ymddiried y cwbl yn y Gwr y bu yn ei garu a'i wasanaethu drwy ei hoes. Mor wir y frawddeg hono: "Ni frysia yr hwn a gredo." "Hi a fu ffyddlawn hyd angeu, a mi a roddaf iddi goron y bywyd." Ac nid oes ameuaeth yn meddwl neb a adwaenai Mrs. Williams na cha wisgo y goron a bod yn dragwyddol gydag ef.

Ganwyd hi mewn lle o'r enw Gatehouse, Minffordd, ger Penrhyndeudraeth, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru, Rhagfyr 15fed, 1832, yn ferch i Mr. a Mrs. John Lloyd.

Yn y flwyddyn 1842, daethant drosodd i'r wlad hon, gan drafaelio ar hyd y llynoedd nes cyraedd y ddinas hon. Yn 1845, symudasant i Portage, Wisconsin.

Yn 1853, fe ymbriododd gyda Mr. Owen J. Owen, a bu efe farw yn 1864, ac yn 1869 cawn iddi ymbriodi drachefn gyda Mr. Thomas Lloyd Williams, a symudasant i fyw i'r ddinas hon. Bu Mr. Williams yn fasnachwr llwyddianus am cyfnod maith, ac yn ddyn amlwg yn mysg y Cymry, ac yn weithgar a ffyddlon gyda'r achos Cymreig. Bu yn ohebydd y "Drych" am flvnyddoedd lawer, a bu efe farw, Tachwedd 24ain, 1910.

Yr oedd Mrs. Williams yn un o'r aelodau hynaf yn yr eglwys Gymreig, wedi bod yn aelod am tua haner can mlynedd. Yn ystod y cyfnod yna, gwelodd lawer o gyfnewidiadau mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn gymeriad nodedig mewn llawer ystyr. Bu yn ffyddlawn iawn i'r achos Cymreig; bu ei chartref yn agored i lu mawr o weinidogion y Gair, a chawsant bob gofal a charedigrwydd ganddi. Dylynodd gyfarfodydd yr eglwys gyda chysondeb neillduol, a chwith gweled lle y ffyddloniaid yn wag. Mae bwlch mawr yn eu colli, gan mai ychydig sydd yn dod i lenwi eu lleoedd.

Er fod Mrs. Williams wedi cyraedd ordran yr addewid, eto yr ydym yn teimlo fod lle gwag yn yr eglwys ar ei hol. Treuliodd oes dawel a heddychol, a gwnaeth yr hyn a allodd er dyrchafu rhinwedd a moes; carai y prydferth a'r pur, a rhoddodd ei goreu i amcanion da y Deyrnas, nad yw o'r byd hwn.

Meddai ar galon dyner a charedig, a bu o gynorthwy mawr i'r eglwys Gymreig mewn llawer amgylchiad. Er nad oedd wedi ei donio a hyawdledd cyhoeddus, eto gwnaeth wasanaeth gwerthfawr yn ei chylch a'i ffordd ei hun. Mae i bob aelod yn yr eglwys ei le a'i waith. a gellir dweyd am Mrs. Williams iddi lenwi ei lle yn anrhydeddus, a phan ddaeth y diwedd, iddi gael mynediad helaeth i mewn i'r trigfanau nefol.

Yr oedd iddi gylch eang o gyfeillion a thystiant oll i gywirdeb ei buchedd. Bu fyw yn nghymdeithas pobl yr Arglwydd, a rhodiodd yn uniawn a diabsen. Gwraig gynil a darbodus ydoedd, a thrwy hyny, daeth hi a'i phriod i amgylchiadau cysurus. Cafodd y gofal goreu wedi iddi fyned i oed, ac yn ystod ei gwaeledd, gan ei hunig ferch, Mrs. R. Howell Jones. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel a digyffro.

Cymerodd yr angladd le, brydnawn Llun. Chwefror 3ydd. Cafwyd gwasanaeth byr yn y cartref, ac yna yn yr eglwys Gymreig, y Parch. Joseph Roberts, D. D. a'r Parch. Owen O. Jones, West Allis yn gweinyddu, a rhoddwyd ei gweddillion i orwedd yn Mound Cemetery, lle y gorphwys llu mawr o hen seintiau Racine. Mae yn aros i alaru ar ei hol, heb law ei merch, Mrs. R. Howell Jones, un wyr, Thomas Gordon Jones, ac un brawd, Mr. Richard J. Lloyd. Lime Springs, Iowa. Nerth a gaffont i ymgynal o dan y brofedigaeth, ac i ymostwng i ewyllys eu Ceidwad.
R. D. Evans.

Y Drych ~ 13eg Mawrth 1919.