ELLEN WILLIAMS. ALDER CREEK. NEW YORK.

Bu farw Ellen Williams, gwraig John G. Hughes, yn ei chartref yn Alder Creek, ddydd Mawrth. Yr oedd yn gwaelu er's dwy flynedd, ond deuddydd yn ol aeth yn waeth, a daeth y diwedd yn gyflym. Yr oedd yn adnabyddus iawn, a theimlir colled fawr ar ei hol.

Ganwyd Mrs. Hughes yn Abererch, Pwllheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Chwefror 13eg, 1842, ac oddieithr tua blwyddyn, ar ol dyfod i'r wlad hon, bu fyw yn y cartref o'r hwn yr ymadawodd am y cartref fry. Erys i alaru ar ei hol, ei phriod, a'r plant canlynol: David J., Rochester; Mrs. Mary C. Kent, John P. Hughes, Mrs. W. T. Williams, Alder Creek; William J., Alder Creek; Hugh W., Utica; R. Leroy, Remsen; Thomas G., gartref; Lawrence P., Wahkon, Minn., a Mrs. Anna E. Lewis, Buffalo, ac wyth o wyrion, a chwech o orwyrion yn fyw.

Yn marwolaeth Mrs. Hughes, ymedy un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus o bawb yn nhref Remsen. Drwy ei bywyd bu yn eithriadol o ddiwyd yn ei chartref a'r gymydogaeth, a theimla pawb golled fawr ar ei hoi. Ni fu erioed gymydoges fwy cymwynasgar yn nydd cyfyngder, fel mam a phriod ymroddedig harddai enw y Crist a garai, pa ryfedd gan hyny ei bod yn llenwi lle mor fawr yn nghalonau ei theulu a'i chyfeillion. Taenai prudd-der dros y gymydogaeth pan welid fod ei nerth yn diffygio.

Yr oedd yn naturiol yn un o'r preswylwyr hynaf yn adran Bethel o'r dref, ac yr oedd ei chartref wedi bod yn gyrchfan cyfeillion a chydnabod am flynyddoedd lawer. Er pan ddaeth Kayuta Lake yn gyrchfan hafaidd, yr oedd cylch ei chyfeillion wedi eangu llawer, a bydd chwithdod ar ol ei haddfwynder a chymwynasgarwch mewn llawer adgof.

Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.