ELLEN JONES WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Pan ond prin wedi cyraedd ei wyth a deugain mlwydd oed, daeth galwad i'r chwaer anwyl uchod ganu ffarwel i'w theulu a'i chyfeillion oll.

Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Evan Jones (Cae Drain), Blaenau Ffestiniog.

Yn y flwyddyn 1898, ymunodd mewn glan briodas a Mr. Griffith R. Williams, un o fechgyn y Rhiw, Blaenau Ffestiniog. Bu yr uniad yn un hapus a chariadlawn hyd y diwedd. Gallai y brawd hwn ddweyd heddyw fel y canodd y bardd Ceiriog Hughes am y fodrwy:

Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi.

Ni chawsant oreu'r ddaear ar eu taith trwy'r byd; er hyny, teithiasant yn wrol, gan gyd-ddwyn y pwysau gyda'u gilydd. Gwelodd Mrs. Williams ami a blin gystuddiau, ond ni fu hyn yn foddion iddi roddi ei hysbryd i lawr. Yn nghanol afiechyd, a siomedigaethau, a phryderon, rhoddodd ei goreu i'w theulu, ei chyfeillion, a'i Duw.

Bu yn fam a phriod lIon'd yr enw, yn gyfeilles o'r cyfeillesau, ac yn sicr fe amcanodd roddd ei goreu i'w Duw. Credaf na wnawn gam a hi pe dywedwn fod ynddi gyfuniad braf o deulu bach Bethania. Yr oedd fel Lazarus, yn ddyoddefgar; fel Mair, yn meddu gwreiddyn y mater; ac fel Martha, yn barod yn ei dull ei hun i wasanaethu ei Harglwydd.

Yn y flwyddyn 1906, daethant drosodd fel teulu o Gymru i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Scranton, Pennsylvania, ac yn y flwyddyn 1916, daethant i aros i ddinas Utica. Yr oedd yn aelod ffyddlon a gwerthfawr yn eglwys Bethesda (A.), Utica; ac fel y tystiolaethai ei pharchus weinidog, ddydd ei hangladd, yn ei hymadawiad fe wnawd bwlch, nid yn unig yn y teulu, ond hefyd yn eglwys Iesu Grist. Er iddi fod yn wan ei hiechyd am flynyddoedd, nid oedd neb yn meddwl y buasai yn myned ymaith mor fuan. "Ond nid eich meddyliau chwi yw fy meddyliau i, ac nid eich ffordd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd."

Tua phythefnos yn ol, tarawyd hi ag ergyd sydyn o'r parlys, pa un ai gwnaeth yn fud. Bu yn gorwedd am rai dyddiau yn ei chartref, a chafodd oreu y teulu, y weinyddes a'r meddyg. Cyrchwyd hi i'r General Hospital y dyddiau olaf, ond er pob dyfais ysbyty y dref, yr oedd atdyniad Ty ei Tad yn gryfach na'r un "modern skill." Bu farw fel y bu byw, yn dawel a dirwgnach.

Do, fe hunodd mewn ysbyty,
O dan do y frochus nen;
Ond dihunodd yn ei phalas
Ac aur goron ar ei phen.

Ddydd Sadwrn diweddaf, daeth tyrfa luosog o bell ac agos i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn y ty, y capel, ac ar lan y bedd. gan Dr. Vincent Jones a'r ysgrifenydd. Yr oedd ei harch wedi ei gorchuddio a hardd flodau, pa rai oedd wedi ei hanfon gan gymdeithasau a chyfeillion. Yr archgludwyr oeddynt: Owen Owens, Francis Owen, Ellis Jones, John H. Jones, Hugh W. Davies a Robert E. William. Gadawyd i alaru ar ei hol, ei phriod, Griffith Williams, a phedwar o blant, sef Richard, Emrys, Sim a Rody, yn nghyd a mam oedranus a dwy chwaer yn yr Hen Wlad. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon, fyddo yn llon'd ei addewid iddynt oll, a gorwedded y dywarchen yn ysgafn ar wyneb un oedd mor anwyl genym oll.
Gan -Richard J. Owen.

Y Drych ~ Tachwedd 6ed 1919.