FREDERICK WILLIAMS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Un o ddynion anwylaf y genedl yn nghylchoedd Rome, New York, ydoedd y diweddar Mr. Frederick Williams, y ffermwr adnabyddus, yr hwn a fu farw Mehefin 18fed.Ganwyd Mr. Williams yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru rvw bedwar ugain a chwech o flynyddau yn ol. Pan yn 19 mlwydd oed, daeth i'r wlad hon gyda'i ddwy chwaer, Harriet ac Ann Williams, ac ymsefydlasant yn agos i Utica. Pan y daeth y rhieni yma, ryw chwe blynedd yn ddiweddarach, aethant oll i Scranton, yn nghyd a'r ymadawedig, ond ni bu ei arosiad ef yno ond byr.
Aeth efe o Scranton i Steuben, New York, ac yn 1858 ymbriododd a Miss Catherine Humphreys, genedigol o Remsen, ac o deulu adnabyddus iawn yn y dyddiau hyny. Bu iddynt naw o blant, ac y mae wyth o honynt yn fyw heddyw: Luther, Wright Settlement: Robert, Scranton, Pennsylvania: ex-supervisor Thomas Williams; Frederick H.; Arthur S., Mrs. Wm. C. Jones, Mrs. Owen Jones, a Mrs. Kate H. Williams.
Am bymtheg mlynedd bu y teulu fyw ar y Brush Farm, yn ymyl y Custodial Asylum; yna symudasant i'r fferm bwrcaswyd ganddynt. Am bum mlynedd-a-deugain yno y trigasant, gan ddathlu jiwbili euraidd a diamond eu haner canfed a thriugeinfed flwyddyn briodasol. Aelodau o'r eglwys Bresbyteraidd Gymreig yw y teulu. Er fod Mr. Williams wedi bod yn Werinwr cydwybodol a ffyddlawn ar hyd y tri ugain mlynedd a saith hyn, nid ymgeisiodd unwaith am ffafr ei blaid.
Cymerodd ei angladd le yn yr eglwys Bresbyteraidd Gymreig, brydnawn ddyldd Gwener, Mehefin 20fed. Gwasanaethwyd gan y Parch. Dr. R. T. Roberts a Dr. Caradog Jones, o'r eglwys Gynulleidfaol. Canodd y gynullelidfa amryw emynau; hefyd, dadganodd Mrs. Arthur S. Evans ddau unawd. Miss Gwladys Roberts oedd yn cyfeilio. Yr elorgluldwyr oeddynt: David R. Griffith, Richard T. Williams, John H. Williams, Thomas Hughes, Daniel I. Jones, Robert O. Williams. Yr oedd amryw wedi anfon blodau-dorchau.