GRIFFITH WILLIAMS. SALT LAKE CITY, SALT LAKE COUNTY, UTAH.

Mae yn ofidus genym geisio ysgrifenu ychydig am farwolaeth ein cyfaill, Griffith Williams, yr hyn gymerodd le yn Salt Lake City, Utah, ar y lleg o Fawrth, wedi byr ond caled gystudd, yn 36 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Ty Newydd, Beddgelert, Gogledd Cymru. Mab ydoedd i'r diweddar Griffith ac Alice Williams. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu tair-blynedd-ar-ddeg yn ol.

Treuliodd y rhan fwyaf o'r amser uchod yn y ddinas hon, ac yr oedd yn lled adnabyddus tua Wardner, Idaho, a Phoenix, B. C. Aeth oddiyma i Salt Lake City tua dau fis yn ol, lle y cafodd ymosodiad trwm o glefyd yr ysgyfaint. Aeth ei gyfaill, Rhys Jones, o'r ddinas hon, yno i ofalu am dano, a chafodd bob cymorth i orchfygu yr ymosodiad, ond angeu a orfu.

Yr oedd Griff (fel y'i gelwid gan ei gyfeillion) yn gymeriad hawddgar, ac yn un a hoffid gan yr oll a'i hadwaenai. Efe ydoedd trysorydd ymddiriedolwyr y capel Cymreig am y flwyddyn ddiweddaf, a bu yn hynod weithgar tra yn y swydd. Mae yn chwith genym feddwl na chawn weled ei siriol wedd mwyach.

Efe oedd y trydydd o ardal Beddgelert a fu farw yn ystod y chwe mis diweddaf, ac yr oeddynt oll yn agos yr un oedran, ac yn gyfeillion mynwesol er pan yn blant. Deallwn fod brawd a chwaer iddo yn Beddgelert, ac amryw berthynasau eraill hefyd, y mae ewyrth iddo yn New York Mills, sef Owen Williams, a chefnder yn Seattle, Washington.

Claddwyd ei weddillion yn Mount Olive Cemetery, Salt Lake City, ar y 13eg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Dr. Williams, a chanwyd emynau Cymreig dan arweiniad S. D. Evans.
Heddwch i'w lwch.

Gan T. E. W.

Y Drych Ebrill 10fed, 1919.