JOHN J. WILLIAMS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Ganwyd y brawd ymadawedig, John J. Williams, yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1844. Daeth ei dad, John J. Williams, i'r wlad hon yn y flwyddyn 1845, a daeth yntau a'i fam a'i chwaer, Elen, yn y flwyddyn 1846. Yr oedd y teulu hwn yn mhlith y Cymry cyntaf a ymsefydlasant yn ardal Welsh Prairie, ger Cambria, Wisconsin. Ganwyd iddynt chwech o blant; claddwyd un yn Nghymru yn ei fabandod, ac y mae yn aros yn awr, un chwaer, sef Mrs. O. R. Jones, Columbus, Wisconsin; a dau frawd, sef Mr. Robert J. Williams, Randolph, a William J. Williams, Cambria.

Bu farw eu tad yn y flwyddyn 1870, a bu y fam farw yn mis Ebrill, 1906.

Ag eithrio ychydig flynyddoedd yn Minnesota a Dakota, bu i'r ymadawedig dreulio ei oes yn gyfangwbl yn nghylchoedd Cambria. Gan iddo fod yma gyhyd, yr oedd yn gymeriad adnabyddus yn mhlith y Cymry yn y cylchoedd hyn. Gwelodd lu o Gymry yn cael eu hebrwng i dy eu hir gartref; nid yn unig yr oll o'r hen sefydlwyr cyntaf, ond hefyd lu mawr o'i gyfoedion ef ei hun.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys pan yn bedair-ar-ddeg oed, a pharhaodd yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Wedi hir gystudd, daeth y diwedd, Rhagfyr 6ed, 1919.

Cafodd angladd anrhydeddus, Rhagfyr 9fed. Cynaliwyd y gwasanaeth yn addoldy y M. C. yn Cambria, a gwasanaethwyd gan ei weinidog. Rhoddwyd y gweddillion i orwedd yn mynwent Cambria.
J. O. P.

Y Drych ~ Rhagfyr 25ain, 1919.