KEZIAH F. WILLIAMS. SEATTLE WASHINGTON.

Newydd a barodd syndod a gofid trwm i ddisgyn arnom yn ddiweddar oedd marwolaeth ddisyfyd ac annysgwyliadwy y gyfeilles anwyl, Mrs. J. Thomas, 2023 3rd Avenue North, gwraig y Sergt. John Thomas, heddgeidwad yn ein dinas.

Bu farw, Mehefin 21ain, o'r peritonitis. Merch ydoedd i'r hen fam yn Seion, Mrs. T. O. Williams, a'i diweddar wr, Mr. Thomas O. Williams. Ganwyd hi yn Conwy, G. C., ryw ddeugain mlynedd yn ol, a daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1888. Mrs. Thomas oedd yr ieuengaf ond un o chwech o blant, ac wedi eu bedyddio i gyd gan y diweddar anfarwol J. R., Llanbrynmair.

Yr oedd yr ymadawedig o natur lednais a hyfwyn, yn un o ffyddloniaid y ddeadell Gymreig yma, ac yn canu yn y cor; ond y mae yn canu mewn gwell cor heddyw.

Claddwyd ei gweddillion yn nghladdfa Mount Pleasant, Mehefin 23ain, a daeth tyrfa fawr yn nghyd i amlygu eu parch i'w choffadwriaeth. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Rhys Evans a J. Michael Hughes; cor yr eglwys yn canu. Gadawodd yr ymadawedig fab bychan wyth mis oed ar ol i'w dad yn ymddiriedaeth gysegredig, a nodded ac arweiniad y nefoedd a'u dylyno, a phob un o'r galarwvr yw ein dymuniadau goreu.
Gan Cofnodydd.

Y Drych Awst 7fed, 1919.