LOUISA A. WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Mrs. John R. Williams sydd wedi ei chymeryd yn wael iawn un o'r dyddiau diweddaf, ar ol bod yn cwyno er's tro.

Aeth ei merch, Miss Mary K., a'i merch-yn-nghyfraith, a hi i Cambridge, New York heddyw i gyfarfod a meddyg neillduol o New York. Ofnir mai gobaith gwan am adferiad sydd iddi, gan ei bod mewn gwth o oedran, a'r anhwyldeb yn dra pheryglus.

Y Drych Mehefin 5ed, 1919.


LOUISA A. WILLIAMS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Fel y crybwyllwyd yr wythnos ddiweddaf fod Mrs. J. R. Williams (hynaf), wedi ei chymeryd yn wael, a'i dwyn i lawr i Cambridge, New York, nos Sul i gyfarfod a meddyg neillduol o New York, aeth dan driniaeth lawfeddygol mor fuan ag y gellid, gan fod ei sefyllfa yn dra pheryglus. Er i'r weithred gael ei chyflawni, bu farw oddeutu un-ar-ddeg foreu Llun yn y Mary McClellan Hospital, Cambridge.

Daeth ei chorff adref nos Lun, a rhoddwyd hi i orphwys yn nghladdfa'r teulu yn Middle Granville, brydnawn Iau, Mehefin y 5ed. Gwasanaethwyd yn y ty, y capel, ag ar lan y bedd gan y Parchn. W. O. Williams a B. G. Newton; y Mettowee Glee Club yn cymeryd gofal y canu yn effeithiol. Yr archgludwyr oeddynt: Robert W. Roberts, Morris R. Roberts, Ellis Davies, Robert O. Roberts, Henry R. Williams, David O. Jones. Gorchuddiwyd ei harch gan flodeu-dorchau heirdd. Daeth tyrfa dda yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i un anwyl, a hen sefydlydd parchus yn y pentref.

Ganwyd y gwrthrych yn Aber, Bangor, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1855, yn ferch i William Williams (y guard) ar linell y L. N. W., a'i briod, Betsy Williams. Mae yn aros yn fyw frawd a chwaer, sef Mrs. Thomas Griffiths, Colwyn Bay; a Hugh Williams (gof), yn Aber, Bangor, Cymru. Daeth yr ymadawedig a'i phriod i'r wlad hon yn y flwyddyn 1884, gan ymsefydlu yn Granville, ac yma y treuliasant y gweddill o'u hoes.

Cyfarfyddodd y tad a'i ddiwedd yn un o chwarelau y Norton Bros., Mai 2ail, 1904, tra yn dylyn ei waith fel goruchwyliwr i'r cwmni.

Ganwyd iddynt dri o blant, sef Thomas, fu farw yn 13 1/2 oed yn 1892; John R. fu farw Chwefror 1af, 1919, gan adael gwraig a merch fechan yn eu galar; a Miss Mary E. Williams, yn unig a adawyd i deimlo y golled ar ol mam dda, a gwraig dawel, a gair da iddi gan ei holl gydnabod.

Yr oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys Jerusalem (A.). Mae cydymdeimlad cyffredinol a'i merch yn ei hunigedd, gan ei bod yn un o ferched ieuainc mwyaf dymunol a dysgedig ein pentref; a hefyd ei merch- yn-nghyfraith a'i phlentyn bach. Nawdd dwyfol a chariad y ddynoliaeth a fyddo yn amddiffyn a chysur gwastadol i chwi o hyn i derfyn y daith.

Y Drych Mehefin 12fed, 1919.