MARGARET J. WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Yn blygeiniol iawn, boreu Gwener, Ionawr 17eg, 1919, bu farw y chwaer anwyl, Mrs. William Thomas, 573 Fair View Avenue. Byr fu ei chystudd, o gorphenodd ei gyrfa ddaearol yn wraig ieuanc 43 mlwydd oed, gan adael tad tyner a thri o blant anwyl i alaru yn chwerw ar ei hol. Cysylltodd ei hun ag achos Duw yn gynar ar ei bywyd, a pharhaodd yn ffyddlon iddo hyd y diwedd. Un o ddysgyblion cuddiedig yr Iesu ydoedd, ac wedi ei symudiad, gwelwn faint ein colled. Yr oedd yn aelod o eglwys Crist gyda'r Wesleaid Cymreig, a'i pharch yn fawr yn mysg ei chydnabod. Nid oedd heb wybod am werthfawredd crefydd, a bu hyny yn help mawr iddi ar gyfer ei marw cynar.

Cadwodd ei chymeriad yn ddilychwin, a bu ei rhodiad yn addas o'i phroffes Gristionogol. Meddai ar deimladau dwys, a chalon agored, a'i hoffder bob amser ydoedd cyfranu o'i charedigrwydd i eraill. Wedi gyrfa mor lan, yr oedd ei diwedd yn dangnefedd. Cloddiwyd beddrod iddi yn mynwent Bangor, a rhoddwyd ei chorff i orwedd yno y dydd Llun dylynol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. W. S. Dawson a John T. Williams, ac un o'r pethau mwyaf dwys ydoedd y lleddfganu ar dorian ei bedd.

Bydded tawel ei hunell yn erw Duw, ac aden dirion yr Ior fyddo yn gysgod dros y tad a'r plant yn yr awr ddu.

Y Drych ~ 30ain Ionawr 1919.