MATTHIAS GRIFFITH WILLIAMS. MANKATO, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Yr haint sydd wedi lleihau yn fawr yn y dref oddiwrth yr hyn a fu; llawer iawn o ieuenctyd o wahanol genedloedd a gymerwyd ymaith ar fyr rybudd; ychydig o Gymry a fu o dano, a'r unig Gymro a fu farw oedd Matheias Williams, heb fod ond 32 mlwydd oed, gan adael gweddw a dau o blant bach. Merch yw i Gabriel Lloyd, o'r ddinas hon, yn berthynas agos a Richard Lloyd, Utica, New York.Daeth i'r wlad hon 12 mlynedd yn ol o Sir Gaernarfon. Yr oedd wedi prynu fferm ar bwys y dref, ond torwyd ef i lawr yn nghanol ei gynlluniau.
Cydymdeimlir a'i deulu bach. Awd a'i gorff i fynwent Jerusalem.