OWEN WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tristwch a'n meddianodd pan y clywsom y newydd am farwolaeth y Cymrawd Owen Williams, South Street. Yr oedd yn gwywo er's peth amser bellach, ac oddeutu chwech mis yn ol, cymerodd y Bright's disease afael ynddo a pharodd hyn i golofnau y ty ddatod yn gyflym, a foreu Sabboth, Mai 10fed, fe'i cwympwyd oll i lawr, ac ehedodd ei ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes; ac mi gredwn i fwynhau Sabboth na bydd diwedd arno byth. "Y mae gorphwysfa eto yn ol i bobl Dduw."

Yr oedd ein cyfaill, Owen Williams, yn adnabyddus i gylch eang iawn yn gymdeithasol, gan ei fod yn aelod o eglwys ac Ysgol Sabbothol Moriah, Cyfrinfa Goronwy ao Urdd y Gwir Iforiaid, y Cymreigyldion, yr Odyddion, Undeb y Plastwyr a'r Maswniaid, y Gymdeithas Elusengar, ac am flynyddau lawer bu yn aelod o'r Philharmonics a'r Utica Male Chorus, ac yn yr oll o'r cylchoedd hyn, bu yn aelod ffyddlawn, gweithgar a pharod i wneyd ei ran er daioni y cymdeithasau hyn, ac er hyrwyddiant pob achos da ag yr oedd a wnelo bywyd Cymreig y ddinas yn neillduol ag ef.

Yr oedd iddo ei nodweddion amlwg iawn. Yr oedd yn gymeriad gonest a chywir. Credaf na wnaeth gam a neb erioed; ni allai oddef bod yn ddyledus i neb, ac yr oedd yn gas ganddo anonestrwydd yn mhob rhyw fodd. Yr oedd ei air a'i addewid yn sicrwydd o gyflawniad y cyfryw. Yr oedd yn ddyn un gwyneb ac unplyg yn ei holl ffyrdd, ac ni wnaeth gam gwirioneddol a'i gyd- ddyn. Yr oedd bob amser yn siriol; anaml y gwelid gwg ar ei wyneb. Yr oedd yn rhy garedig i falais a digter gael lle yn ei fynwes. Nid oedd ganddo ddawn i siarad, ond bendithiwyd ef a'r ddawn i wneyd; yr oedd wrtk, ei fodd yn gwneyd elusen. Yr oedd ei galon a'i logell yn agored bob amser i gynorth- wyo y tlawd a'r profedigaethus.

Fel y dywedodd Elias Ellis, ei athraw yn yr Ysgol Sul, yr oedd yn fawr yn ei barodrwydd i wneyd pethau bach. Bu am flynyddau yn llyfrgellydd yr Ysgol. Yr oedd yn adnabod ei le, ac ni wnaeth yr un ymgais i fyned dros yr adnabyddaeth. Edmygai a charai blant; ei hoff waith yn y cyrddau llenyddol fyddai cynyg a rhoddi y gwobrwyon i'r plant yn eu hymdrech yn eu cystadleuaethau. Yn ol y wybodaeth sydd genyf o hono nid oedd yn deall yr un nodyn o gerddoriaeth, ac eto pwy mor hoff o gerddoriaeth ag oedd efe? Dyma fwynhad ei fywyd, a chofier nid canu gwamal, isel a dichwaeth ydoedd ei fwyniant; o na, y goreu mewn cerddoriaeth a fynai ef-canu corawl uwchraddol a chanu emynau cysegredig a'r eneiniad arno, ac yn Moriah yr oedd yn cael hwnw bob amser.

Sawl gwaith y clywsom ef yn dweyd hyny ac yn canmol yr arweinydd y byddai, neb yn debyg iddo yn y cysylltiad yma, a'r un modd gyda bugail yr eglwys - yr oedd y Parch. D. Morgan Richards yn angel Duw gan ddo mewn gwirionedd. Nid am ei fod yn fach ac yn gul yr oedd yn meddwl mor fawr o'r enwad yr oedd yn crefydda gyda hwy. Un o gymeriadau prin cymdeithas ydoedd, a chwith iawn genym am ei gymeryd ef oddiwrthym. Bydd ei le yn wag mewn llawer ystyr a chylch.

Ganwyd gwrthrych hyn o ysgrif yn Tyn yr Erw, Corwen, Gogledd Cymru, Mai 3ydd, 1859. Yn y flwyddyn 1883, ymfudodd i'r wlad hon o Liverpool. Y flwyddyn flaenorol i hyn ymbriododd ag Ellen Jones o'r Gaerwen, Mon. Bu iddynt ymsefydlu yn Utica ar eu dyfodiad i'r wlad, ac yma y maent wedi cartrefu er hyny. Bu eu preswylfod yn gartref i rai oddicartref. am flynyddau lawer. Bu farw Mrs. Williams oddeutu ugain mlynedd yn ol, a dwy flynedd ar ol hyny, ymbriododd Mr. Williams drachefn a Kate Jones, Cassville, New York. Yn aros o'r teulu, heblaw ei briod, y mae ei fam, Mrs. Gwen Williams, Cymru; pedwar brawd, William B. o'r dref hon; John T. yn Nghymru; Richard a David yn Lloegr; dwy chwaer, Susan a Jane yn Nghymru, a dau blentyn, Herbert O. a Gwendolyn G. o'r dref hon.

Y mae i'r teulu ein cydymdeimlad llwyraf a hwy yn eu profedigaeth o golli un mor serchog iddynt ac yntau yr un modd o honynt hwythau.

Cymerodd y gladdedigaeth le o'r ty brydnawn ddydd Mawrth, y Parch. John Davies, D. D., yn gweinyddu, a chanwyd amryw o ddarnau yn effeithiol gan ei en ffrynd Eliott Stewart. Yr archgludwyr oeddynt: John L. Evans, William Richards, Hugh T. Jones a John O. Tho mas. Y mae ei le gorphwys yn mynwent y New Forest Hill. Angladd annghyhoedd ydoedd. Yr oedd yr oll o'r cymdeithasau a pherthynasau a ffryndiau lawer wedi anfon blodau i ddangos eu parch i'r ymadawedig. Bydded iddo gael un dawel hyd y boreu y bydd

"Gwawr a dyr pan egyr dorau - ei fedd
Daw'n fyw o byrth angau;
Goruwch oer bridd, garchar brau,
Y gwel fyd heb glefydau."
J. O. T.

Y Drych Mai 15fed 1919.