ROBERT J. WILLIAMS. PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mewn canlyniad i ddamwain yn Gravesville, bu farw Robert J. Williams, un o'r dinaswyr mwyaf adnabyddus yn Prospect. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth. Er's rhai blynyddau, nid oedd wedi gweithio llawer; ond yn achlysurol ai fel yr wythnos ddiweddaf i gynorthwyo eraill. Adeiladu simneu yr oeddynt, ac yr oedd un Lewis Frederick, tua 6 o'r gloch, newydd siarad ag ef a throi ei gefn pryd y clywodd dwrw syrthio. Gwelai Robert J. Williams yn gorwedd yn farw isod. Yn y trengoliad, dyfarnodd Dr. James W. Graves, iddo farw ar y fynyd.

Ganwyd y trancedig yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Gorphenaf 4ydd, 1848. Daeth yma yn flwydd oed gyda'i rieni ar long hwyliau, i'r hon yr oedd ewythr iddo yn gadben. Ar ol 13 wythnos o fordwyaeth, glaniasant yn Boston. Oddiyno daethant i Utica, ac yma am ysbaid y preswyliasant ar fferm gyda pherthynasau. Ar ol bod yn preswylio yn Williamstown, Oswego County, aethant i Prospect, ac yno yr arosodd hyd y diwedd.

O weithiwr yr oedd wedi gwneyd ymdrech fawr yn ei ieuenctvd i enill ysgoleigdod. Darllenai ac ysgrifenai lawer o ryddiaeth a barddoniaeth. Yr oedd yn flaenllaw yn ymuno a'r blaid waharddol, ac a'r Temlwyr Da. Aelod o'r eglwys Gynulleidfaol ydoedd.

Y mae yr ardalwyr oll oeddynt yn ei adnabod oreu yn edrych yn ol gyda pharch ar flynyddoedd meithion o gymeriad rhinweddol fel dyn a ffyddlondeb gostyngedig fel dinesydd. Bu yn briod a Miss Jane Griffith am 36 mlynedd, hyd 1915. Gedy i alaru ar ei ol, un mab, J. Ward Williams, Prospect; merch, Mrs. George E. Upson, Utica; wyr, J. Robert Williams; dwy chwaer yn fyw; un arall a fu farw ddwy flynedd yn ol.

Y Drych ~ Mai 22ain 1919.