MARGARET JONES. BARABOO, SAUK, WISCINSIN.
Merch Mr. John W. Jones (1806-1868) a Laura Margaret Price (1804-1889).Find a Grave.
MARGARET JONES. RANDOLPH, WISCINSIN.
Y Foneddiges Ddall o Galedonia wedi Cyraedd ei 90 Mlwydd Oed- Gair o'i Hanes
Diau y bydd yn dda gan ddarllenwyr lluosog y "Drych" gael golwg ar wyneb y chwaer anwyl uchod, yn ogystal a darllen ychydig ar brif ffeithiau ei gyrfa. Cyraeddodd yr oedran mawr o pedwar-ugain-a-deg o flynyddoedd, ddydd Llun, Chwefror 24ain, a threuliodd y dydd yn derbyn o ymweliadau cyfeillion a chymydogion, ac yn gwrando'n ddyddorus a diolchgar ar ddarlleniad llythyrau a cherdynau a anfonesid oddiwrth rai yn mhell ac agos, yn ei llongyfarch yn galonog ar yr achlysur. Nid peth i'r teulu yn unig ydyw dydd pen blwydd Mrs. Owen mwyach. Y mae Mrs. Owen yn hollol ddall er's blynyddoedd, fel y dibyna yn hollol ar ffyddlondeb a gofal diball ei merch, Edwenna, ac ni chafodd mam yn unman dynerach merch i weini arni yn nyddiau ei henoed.Er hyny, a hi yn ddall, myn glywed darllen y "Drych" bob wythnos, a chedwir hi felly yn agos at ei chenedl a'i helyntion yn barhaus. Hyd yn ddiweddar iawn, daliai i fynychu yr Ysgol Sabbothol yn gyson, a byddai raid i'w brawd, Mr. John P. Jones, a'i merch, ddarllen y wers yn nghyd a'r esboniad arni. A phan ddeuai'r Sabboth, cai'r athraw hi mor barod a neb, pwy bynag. Daw yn gyson i'r moddion yn y capel Cymreig, ac nid oes wrandawr mwy astud yn yr holl gynulleidfa.
Ganed Margaret Owen yn Tynycoed, Arthog, yn mhlwyf Llangelynin, yn Meirion, a hyny Chwefror 24ain, 1829. Merch ydyw i John W. Jones a'i briod, Laura. Gwr cryf, ar lawer ystyr, oedd ei thad, fel y dengys ei hanes. Adroddir am dano yn nyddiau'r Diwygiad Dirwestol yn Nghymru, a rhyw berthynas i Charles o'r Bala, yn areithio ar ddirwest, ac yn gwahodd y bobl i arwyddo yr ardystiad. Pan oedd Mr. Jones ar fedr arwyddo, dywedodd ei briod wrtho am arwyddo dros dymor penodol yn unig, eithr ei ateb penderfynol ydoedd: "Na, llwyr ymwrthodiad i mi neu ddim, Lowry!" Wedi rhoddi ei enw ei hunan, rhoddodd enwau'r plant, Ann, Elizabeth, John a Margaret i lawr hefyd. Ymliwiodd rhyw hen ddiacon ag ef, nad oedd ganddo hawl i roddi enwau'r plant i lawr, eu bod yn rhy ieuanc i fod yn gyfrifol. Ei ateb parod ydoedd: "Mi fyddaf fi yn gyfrifol amdanynt."
Pan oedd gwrthrych hyn o ysgrif yn ferch ddeunaw oed, daeth un Arglwydd Hervey, ac esgob yn Eglwys Lloegr, i fyw yn y Castell yn ymyl ei chartref. Ymddengys fod ei arglwyddiaeth ar y pryd yn gwneuthur math ar efrydiaeth o'r Beibl, mewn ieithoedd gwahanol. Ceisiodd gan offeiriad y plwyf sicrhau iddo ferch ieuanc allai ddarllen Cymraeg yn dda, i'w gynorthwyo i gyfieithu o'r Gymraeg i'r Seisneg. Cymeradwyodd yntau'r ferch o Dynycoed, gyda'r canlyniad iddi fyned gyda y teulu urddasol i Gastell Ickwith, yn Swydd Suffolk, Lloegr. Bu gyda'r teulu hwn am rai blynyddoedd ac yn eu gwasanaeth gwelodd lawer ar y byd. Bu gyda hwy yn Mharis, Ffrainc, a manau eraill, ond daeth gair yn hysbysu fod ei theulu yn bwriadu ymfudo i America. Ceisiodd yr Arglwyddes Hervey gan ei rhieni iddi gael aros dair blynedd yn mhellach. ac yna y talai hi ei chostau teithiol i unrhyw ran o'r wlad newydd. Ond nid boddlon oedd y fam i adael Cymru heb fod Margaret hefyd yn y llong.
Gadawodd y teulu Gymru gan dreulio y Sabboth yn Lerpwl, a threuliwyd y diwrnod nodedig yn gwrando'r boreu ar y parch. Henry Rees; y prydnawn ar y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog); a'r hwyr ar y Parch. Thomas Aubrey. Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd oedd y fam, eithr gyda'r Wesleaid y buasai'r tad. "Wel, pa un oedd y goreu, John bach?" gofynai'r fam. Ond ni atebai'r tad, ac meddai'r fam: "O, mae'n ddigon hawdd gweled prun di'r goreu genoch chi, Thomas Aubrey, wrth gwrs!"
Cychwynasant o Lerpwl tua diwedd Ebrill, gan lanio yn Efrog Newydd tua diwedd Mai. Y dydd Llun cyn iddynt gychwyn, tarawsant ar Iorthyn Gwynedd: yr hwn oedd i forio ar lestr arall. Gwahoddwyd ef i anerch y Cymry oedd ar fedr ymadael, a gwnaeth hyny, gan eu cyngori i gofio eu bod yn gwynebu ar wlad newydd, ac arferion a dulliau newydd, a'u hanog i gydymffurfio a'r cyfryw.
O Efrog Newydd, aethant i Racine, ac yno y clywsant y Parch. Rees Evans yn pregethu. Daethai ewythr iddynt yr holl ffordd o Broscairon i Racine i'w cyrchu mewn gwageni, a chyraeddasant i'r "Cemas" yn Mhroscairon ar y pedwerydd o Orphenaf, 1851.
Ionawr laf, 1853, ymbriododd a William Owen, mab hynaf John Owen, Caledonia, a chan fod Mr. Owen wedi ei ethol yn gofrestrydd y Sir, symudasant i Portage i fyw. Yno ymunasant ag eglwys y Presbyteriaid, a buont yn ffyddlon i waith yr eglwys yno. Yr oedd Mr. Owen yn athraw llwyddianus yn yr Ysgol Sul, a chafodd y fraint o fod a llaw yn hyfforddiant grefyddol dynion enwog fel y Parchn. Charles Thompson, D. D., John Carpenter ac Oscar McCulloch, gweinidogion amlwg gyda'r Presbyteriaid.
Ganed o'r briodas ddeg o blant: John Gwilym, Edwenna Essellt, Edwyn Caradog, Aneurin, William Salisbury, David Goronwy, Owen Jones, Meirion Rhydderch, Laura Margaret a Grant. Symudasant o Portage i Cambria, ac oddiyno drachefn i Flaenycae. Wedi treulio rhai blynyddoedd, troisant yn ol i Galedonia, ac yno y bu farw Mr. Owen, Awst 21ain, 1894. Er's rhai blynyddoedd bellach, yn Randolph y trigiana Mrs. Owen gyda'i merch, Edwenna, yn gofalu am dani, a haedda glod mawr am hyny. Erys naw o'r plant yn fyw, wyth o honynt yn briod, a chanddynt oll deuluoedd lluosog, fel mae gan Mrs. Owen erbyn hyn 34 o wyrion yn fyw, a chwech wedi ei blaenori i fyd arall.
Llafurus fu bywyd yr hen fam hon yn Israel, magodd deulu mawr, gweithiodd yn galed i helpu ei phriod, a chadwodd lamp crefydd i losgi yn loew yn mywyd ei theulu. Cadwai yr allor deuluaidd i fyny, a bu yn gyson mewn gwasanaeth i'r eglwys yn mha le bynag y byddai. Caffed fyw flynyddoedd lawer eto ydyw dymuniad cywiraf ei llu cyfeillion.
Derbyniodd ar ddydd ei phen blwydd gant a phump o gardiau a llythyrau, a chynwys yr oll yn eidduno iddi gael byw i weled o leiaf gant o flynyddoedd yn hyn o fyd. Brawd iddi, a'r unig frawd, ydyw y diacon, John P. Jones, Brynllan, Randolph, a llawer egwyl ddifyr a dreuliant yn nghwmni eu gilydd. Fel hyn y canodd awdwr hyn o lith iddi beth amser yn ol:
Gwelais enethig ieuanc,
Yn llon ar y glenydd draw;
Chwarddai yn llawen, llawen,
A blodeuglwm yn ei llaw;
Rhodiai yn ysgafn, ysgafn,
Ac yna, fe bynciai gan;
Wylai, a chwarddai eilwaith,
Nes denu fy serch yn lan.
Dygai gyfrol a phapyr,
O dan ei breichiau yn dyn;
Rhyw bethau gwerthfawr, gwerthfawr,
A gawsai yn y rhai hyn;
Cerddais yn agos ati,
A gwelwn ar un y"Drych,"
A "Beibl" oedd enw'r gyfrol
Edrychai mor hardd a gwych.
Ond dyna fy syndod penaf,
Y ferch a gerddai mor llon
Oedd debyg i Farged Owen,
Drigianai'n y dreflan hon;
Ond hen oedd y Farged hono
Adwaenwn i, ac yn ddall;
Ond wele y ferch a welwn,
A ganai, darllenai'n ddiball.
Darllenai hanes y Cymry
Ar hyd ac ar led y wlad;
A sugnai gysuron gwerthfawr
O gynwys ei Beibl mad;
"Wir," meddwn wrthyf fy hunan,
"Mae'n dda genyf weled yr un
Gerddai yn araf, araf, gynt,
Heddyw yn ieuanc fun."
"Ac enill o honi eilwaith
Ei golwg yn ol mor wych
I ddarllen ei Beibl hygar
A chynwys yr enwog "Ddrych."
Ar hyny, deffroais yn sydyn
Gan waeddi a llawen floedd
Ond, Ow! er fy siomiant athrist,
A welswn, breuddwyd oedd!
Ai breuddwyd yn hollol ydoedd?
Oni ddaw diwrnod cun?
Y gwelir hi fel y breuddwydiais,
Yn ieuanc a phrydferth fun?
A gwrid y mynyddoedd oesol,
Yn harddu ei phryd a'i gwedd;
A'i chalon yn drigfan dirion
I gariad a bythol hedd.
Gan y Parch. F. Tegfryn Roberts. Randolph, Wisconsin.
Find a Grave.
MARGARET JONES. RANDOLPH, WISCINSIN.
Y Foneddiges Ddall.
Ar wyneb y "Drych," Mawrth 6ed, yr oedd darlun o Mrs. Margaret Owens, Randolph, Wisconsin, yn 90 mlwydd oed.Mawr ddiolch i'r Parch. F. Tegfryn Roberts am dipyn o hanes gyrfa y wraig dduwiol hon. Yr oedd hi a fy hen fam yn cael eu dwyn i fyny yn yr un ardal, o fewn rhyw led cae i'w gilydd; yr hen ardal ramantus, Arthog, Llangelynin, Meirion. Yr oedd yn adnabyddus a fy nhaid a nain; hefyd a fy hen daid.
Tra ar ymweliad a Randolph beth amser yn ol, cefais ymgom felus iawn a hi; gan fod ei chof mor dda, mae yn hyfryd bod yn ei chwmni a gwrando arni yn myned dros adgofion boreu oes. Ychydig o'r cymeriadau pur fel hi sydd yn cael aros gyhyd ar ein daear, a thebyg na fuasai hithau ddim ar gael heddyw oni bai ei hanwyl ferch, Edwenna, yr hon sydd wedi bod fel angel gwarcheidiol nos a dydd yn gofalu am dani. Ei gwobr fydd mawr am ei gwaith da i'w thyner fam. Yr wyf yn gobeithio y caf ei gweled eto cyn y bydd iddi groesi i'r ochr draw.
Os yw ei golwg wedi ffoi,
A llygaid ffydd mae'n medru troi
I edrych i'r ardaloedd pell
Cyn esgyn fry i'r wlad sydd well.
Tra'n teithio ar hyd rhodfeydd ei Duw
At ffrydiau pur y dyfroedd byw,
Mae hi yn rhagfwynhau y wledd
Cyn hedeg draw i wlad yr hedd.
Gan Idris o'r Llwyn.