MR. JOHN ROBERT WILLIAMS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

DATHLIAD PRIODAS EURAIDO.

Haner can mlynedd yn ol, sef Mai 15fed, 1864, yn Mangor, Gogledd Cymru, unwyd par ieuanc rhinweddol ac urddasol mewn glan briodas, sef John R. Williams a Miss Ellen Williams (Llinos Arvon).

Y mae'r ddau erbyn hyn yn 73 a 71 oed, ac yn byw yn Mangor, Pennsylvania, ers un a deugain o flynyddoedd. Y maent wedi codi teulu lluosog, ac y maent hwy a'r plant mewn parch mawr gan bawb a'i hadwaenant. Y mae iddynt saith o blant, fel y canlyn: Robert Williams, Mrs. Jeanette Jones, Miss Janle Williams, Jabez Williams, Miss Carrie Williams, a John R. Williams, yr oll o Fangor, a William Williams, o Pen Argyle. Y mae iddynt dri ar ddeg o wyrion, a thri o orwyrion. Yr oedd pedair cenedlaeth yn bresenol yn nathliad y goffadwriaeth prydnawn dydd Sadwrn diweddaf, Mai 16eg.

Oherwydd cyflwr gwanaidd presenol iechyd Mrs. Williams, cyfyngwyd ar y gweithrediadau, er hyny, cafwyd digon o arwyddion i amlygu y teimlad o barch a ffynai tuag atynt. Yr oedd y ty wedi ei addurno yn dlws a rhedynau a blodau, a thua haner cant o berthynasau a gwahoddedigion yn cyfranogi o'r wledd ysblenydd ddarparwyd gan ddwylaw caredig ar gyfer y dathliad. Yr oedd y deisen briodas yn arddunol dros ben, a chrugwyth o bethau da, a melus: odiaeth eraill ar gyfer pawb.

Wedi boddloni y dyn nesaf i mewn, cawd cyfarfod tawiel o anerchiadau ac anrhegu. Yr oedd y Parch. Ivor Thomas yn ei hwyliau goreu fel arfer, ac megys y gall mewn amgylchiadau fel hyn. Dylynwyd ef gan Mri. John Thorman, un adnabyddus o'r ddau erioed; a rhoddodd anierchiad difyr, a William O. Pritchard yn ei ganlyn; y mae ef wedi ymbriodi a chwaer i Mrs. Williams, o doniol iawn oedd ei awgrymiadau ef.

Y mae Mr. David Evans (gohebydd a blaenor y T. C.) yn briod a chwaer arall i Mrs. Williams. Darllenodd yr ysgrifenydd ychydig o benillion 'talcen slip' chwedl yr Hwntw, ac yna y daethpwyd at brif waith y dydd. Cafodd Edward Foulkes amser da ac hwylus, ac mewn modd deheuig cyflwynodd i'r par ieuanc-hen hen-ieuanc, amryw o anrhegion gwerthfawr, rhai yn aur, ac eraill yn dlysion; ac yn eu plith yr oedd ffon hynod, ac yn ei phen beiriant i daflu fflachiadau o oleuni trydanol i oleuo llwybr bywyd y dyfodol. Eglwys y T. C. oedd y tu ol i hon, ac hefyd cadair hardd i Mrs. Williams.

Yr oedd yno gadwynau a spectol aur ac aur bathedig, a.y. Llongyfarchwyd hwynt yn siriol gan bawb; a llifeiriai pobl i gyfeiriad eu hanedd dymunol hyd oriau yr hwyr.

Yr oedd Mr. Jabez M. Williams a'i briod o WilkesBarre yno, ac y mae efe yn frawd i Mrs. Williams, ac yn ohebydd derbyniol i'r "Drych." Gwelwyd yno hefyd Mrs. Jeanette Williams a Keziah, ei merch, o New York. Nid, rhyfedd y parch a'r edmygedd hwn. Y mae y ddau wedi bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar iawn i eglwys a chymdeithas trwy eu hoes.

Cafodd Mrs. Williams ei hanrhydeddu yn Nghymru fel cantones ieuanc a galluog; yr oedd ei llais mwyn, melodaidd, wedi toddi ei ffordd i galon ei gwlad a'i chenedl, ac enillodd wobrau lawer. Tua 17 oed, cafodd y ffugenw Llinos Arvon yn un o Eisteddfodau Conwy. Enillodd yn Eisteddfodau Caernarfon tuag 1864. Tua'r adeg yma yr oedd Hwfa Mon ac Eben Fardd yn ymdrechu a'u gilydd. Cydganodd Llinos droion gydag Eos Gwynedd; yn y cyfnod yma cododd Miss Watts; fel comed yn myd y ser, gan dynu sylw pawb i entrych byd y gan. Aeth heibio, ond fe barhaodd Llinos dawel, fwynaidd i oleuo a chanu am ysbaid maith.

Dywedai un wrthyf yr wythnos hon iddo wrando arni yn canu mewn ychydig o wythnosau ar ol claddu ei mam, a hyny mewn cyngerdd yn Ngogledd Cymru. Yr oedd dwysder ei gwedd, a duwch ei galarwisig, a'i phrofiad personol ar y pryd hwn yn peri i'r unawd "Yr Eneth Amddifad" a ganwyd ganddi y tro hwnw, i godi y gynulleidfa megys ar eu traed, a llygaid pawb yn foddfa o ddagrau, tro nad a yn annghof am amser eto i ddod.

Yr oedd John R. Williams yntau yn flaenor eglwysig er yn foreu; ac y mae eglwys y T. C. yma yn Mangor yn gwerthfawrogi ei lafur a'i gymdeitthas yn y ffordd hono er ys blynyddau bellach. Y mae eu plant yn troi mewn cylchoedd defnyddiol a chrefyddol, elflen y gan yn amlwg yn yr wyrion; disgynyddiaeth doniau yn dweyd y byddant fyw yn eu plant, a phlant eu plant am gyfnod maith eto yn hanes y byd.

Hir oes, a blynyddoedd maith boed iddynt, yw dymuniad llawer a'u hadwaenant.
Gan Alfardd Fychan.

Y Drych ~ Mai 28ain 1914.