MR. RICHARD ROBERTS. DELTA, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.
ANTURIAETH LWYDDIANUS CYMRO O FFESTINIOG YN DELTA, PENNSYLVANIA.
Tachwedd 27ain, 1884, ar Ddydd Diolchgarwch cyraeddodd un o fechgyn Ffestiniog sef Richard Roberts (Dick Ty'r Nant, Llan), i Delta, Pennsylvania. Yn ddiymdroi gosododd i fyny ychydig beirianau yn cael eu troi gyda llaw mewn ystafell, rhan o engine house, yn chwarel William E. Williams, y pryd hyny, yn awr Proctor and Company. Nid hir y bu cyn tynu sylw pobl y cylch ato fel peirianydd cywrain, uwch law y cyffredin, ac yr oedd ei lwyddiant yn gyfryw fel y bu raid iddo chwilio am adeilad mwy mewn lle mwy cyfleus, a symudodd i ran deheuol Delta, a elwir er's blynyddau bellach yn Cardiff, Maryland. Yr oedd yn ddyfeisydd cyflym, a chanddo brofiad helaeth gyda pheirianau llech-chwarelau, a chyda y rhai hyn y llwyddodd yn gyflym, fel yr oedd yn angenrheidiol iddo wneyd cyfnewidiad pwysig ac anturio wnaeth.Prynodd dir mewn man cyfleus gyfochrog a llinell Dixie, yn ymyl gorsaf Cardiff, ac efe gafodd y fraint o roi yr enw "Cardiff" ar y lle. Yno yr adeiladodd foundry a machine shop, ac hefyd adeiladodd amryw dai a stor ar y tir a brynodd. Fe adnabyddir y ffirm er's rhai blynyddau bellach fel Roberts and Son, ei fab hynaf, yr hwn hefyd sydd yn ddyfeisydd cyflym fel ei dad. Mae dau arall o'i feibion yn gweithio gyda hwynt, sef Jones ac Alfred; felly fe wel y darllenydd fod y cwmni yn hollol Gymreig, fe allai yr unig gwmni Cymreig yn y Talaethau yn y gangen hon o fasnach.
Mae y ffirm yn adnabyddus trwy y rhan fwyaf o'r Talaethau Unedig. Mae y gwahanol beirianau a wneir ganddynt yn lluosog. Enwn ychydig o honynt yn iaith yr Unol Dalaethau: Slates saw -tables, cable hoisters, engines, canning apparatus, and a great variety of smaller products.
Fel hyn dywed "Delta Herald" yn ddiweddar, "The firm of Roberts and Son is now one of the most extensive in this community. They ship to Baltimore, Philadeliphia, New York, Southern and Western States. They recently shipped a 20 h. p. electric holster to Newbern, N. C.; another 52 h. p. to Carteret, N. J.; working on another 50 h. p. to go to Slatington, Pennsylvania. Last week, first week in December, R. Ll. Roberts, made a business trip to Baltimore, came home with order for machinery that will require 90 tons of iron and steel.
Wythnos y Nadolig bu yno yn gwneyd amcangyfrif ar archeb (order) yn cael ei phrisio yn ddeng mil o ddoleri. Mae y ffaith fod y ffirm yn gweithio mor gyson, y dwylaw mewn llawn gwaith ar hyd yr amser, ac yn gorfod gweithio allan o amser yn aml iawn, yn profi y safle anrhydeddus ac ymddiriedol maent wedi ei gyraedd fel nad oes angen dweyd, fod y gwaith a wneir ganddynt, yn llefaru drosto ei hun, ac yn hysbysebydd da.
Llongyfarchwn yr henafgwr Roberts a'i Fab, ar eu llwydd fel peirianwyr.
Ddwy flynedd yn ol i'r haf diweddaf, ymwelodd Richard Roberts, a'i gyfaill Humphrey Lloyd (mab i Sian Llwyd, Dolgaregddu gynt) ag ardal eu genedigaeth, a chawsant amser dymunol, a difyr oedd gwrando ar y ddau yn dweyd eu hanes. Cwrddasant a llawer o hen gyfoedion boreu oes, sef Dr. Roberts (Isallt); Griffith, ei frawd; Owen Jones, Dolawel (y diweddar, erbyn hyn), efe yn berthynas a Mrs. Roberts.
Ymwelwyd a hen chwarel y Diphwys, lle y bu R. R. yn gweithio fel peirianydd yn y blynyddau a fu, ac nid oedd ball ar y croesaw i'r ddau ymwelydd.
Gan Ffestinfab.