PARCH. MORRIS SAMUEL JONES. PORTAGE COUNTY, OHIO.
Rhoddwn yma ddarlun o'r Parch. Morris S. Jones, Remsen, New York, dewis-ddyn eglwys Hebron, Chicago, Illinois, fel gweinidog a bugail, yn olynydd i'r Parch. John C. Jones, D. D. Erbyn hyn y mae Mr. Jones wedi hysbysu yr eglwys yn Chicago ei fod yn barod i gyd-synio a'r alwad, ac y bydd iddo, yn ol pob tebyg, ymgymeryd a'i waith yno ar ddechreu y flwyddyn nesaf, yr hyn yn ddiameu, sydd yn newydd calonogol i'r eglwys a'r gynulleidfa. Mae yn Chicago faes rhagorol, a chyfle neillduol i waith sylweddol.Mab ydyw y Parch. Morris S. Jones i Morris a Mary Jones, Goleufryn, Llanberis, ac efe yw yr ieuengaf o chwech o fechgyn. O ochr ei dad y mae yn nai i'r Parch. John W. Morris, Poultney. Vermont. Oddeutu 15 mlynedd yn ol yr ymfudodd i'r wlad hon gan sefydlu gyda ei ewyrth yn South Poultney, ac o dan ei nawdd ef y dechreuodd bregethu. Cymerodd gwrs o addysg yn y T. C. A. yn Poultney gan fynychu yr ysgol yn y gauaf, a gweithio yn y chwarel yn yr haf. Wedi gorphen ei addysg yno, aeth am gwrs pellach i Princeton, New Jersey, a gweithiodd ei ffordd drwodd yno hefyd.
Ei alwad cyntaf oedd Alliance, Ohio, ac ordeiniwvd ef yn weinidog yn y Gymanfa a gynelid yn Venedocia, Hydref, 1909. Wedi treulio pum mlynedd yn weinidog cafodd alwad i fugeilio eglwysi y Remsen a'r Nant, a gwasanaethodd hwy yn ffyddlon. Ar hyn o bryd deil y swydd o Lywydd Cymanfa New York, ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Cenadol y Gymanfa. Y mae iddo briod a dau o blant ieuainc.
Dymuna ei luaws cyfeillion yn dda iddo yn ei faes newydd.