MR. EVAN R. LUMLEY, LOS ANGELES, CALIFORNIA.

Mehefin 10fed 1926. Prudd yw genym gofnodi marwolaeth Evan R. Lumley, gynt o Idaho Springs a Denver, Colorado.

Daeth i California yn y flwyddyn 1919 am ei iechyd; cartrefodd ef a'i briod y rhan fwyaf o'r amser hyn yn ninas Long Beach. Tua wyth mis yn ôl collodd ei anwyl briod ac yr oedd hyn yn ergyd galed iddo. Symudodd i Los Angeles a gwnaeth ei gartref gyda ei nith, Mrs. John D. Morris, 4559 Pickford Street, lle y cafodd gartref dedwydd a phob gofal.

Tua pythefnos cyn y diwedd caethiwyd ef i'w wely a bu farw Mai 28ain, a chafodd ei gladdu ddydd Mawrth Mehefin 1af, am ddau o'r gloch o le Edwards Undertaking Co. Yn absenoldeb Dr. Jones, gweinyddwyd gan ei hen weinidog yn Idaho Springs, sef y Parch. Frank Wilman, gweinidog eglwys Bresbyteraidd San Fernando. Canwyd unawd yn ystod y gwasanaeth gan Mrs. Ernest Beynon a deuawd gan Mrs. Beynon a William Owen Jones.

Daearwyd y gweddillion yn mynwent Inglewood. Canwyd "Bydd Myrdd o Ryfeddodau" ar lan y bedd. Yr oedd y gwasanaeth drwyddo yn syml a theimladwy.

Gyda gwrthrych yr ysgrif yn Aberllefenni, yn 1860, mab i Robert a Mary Lumley, y tad yn flaenor parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberllefenni ac hefyd yn Abergynolwyn o'r lle y symudodd y teulu. Gweithiodd yr ymadawedig yn chwarelau Aberllefenni a Bryneglwys.

Daeth i'r wlad hon tua 38 o flynyddau yn ôl gan sefydlu yn Kansas. Symudodd yn fuan i Idaho Springs i arolygu rhai o'r mwnau yno, lle yr oedd yn fawr ei barch gan bawb mewn byd ac eglwys. Bu y gynorthwy i lu o Gymry trwy gael gwaith iddynt. Oherwydd gerwindra y tywydd penderfynodd ef a'i briod symyd i Califfornia a gwnaeth lu o gyfeillion yn y cylch. Yr oedd y gwmniwr dyddan, yn ddarllenwr mawr. Melus oedd ei gymdeithas, llawer o oriau dreuliasom yn myned dros hanes "Teulu y Lumleys."

Gadawodd un chwaer ar ei ôl mewn unigedd, sef Mrs. Ellen Jones, Topeka, Kansas, Emporia gynt, heblaw amryw o neiant a nithoedd. Dwy flynedd yn ôl cefais y fraint o fyned a'r Parch. J. Michael Hughes, Seattle, i ymweled â Mr. Lumley; y fath gyfarfyddiad yn eu cartref clyd, y ddau yn hen gyfeillion boreu oes yn Aberllefenni a Abergynolwyn a'r amser dedwydd gafodd y ddau yn myned dros hen amser. Yr oedd ei fywyd yn ffrwyth yr argraffiadau boreu oes, ei gred diysgog yn ei Waredwr a'i obaith sicr am gyfarfyddiad a'i anwyliaid mewn bro lle y mae eu phreswylwyr uwch pob cur a phoen. Dywedai wrthyf yn aml, "Mae llu o deulu'r Lumleys yn fy nysgwyl yr ochr draw." Fel un o'r Lumleys, gallwn ninau ategu hyn gan fod genym ninau rai anwyl iawn yn mysg y "teulu" yr ochr draw i'r llen.

Y Drych ~ 1af Gorffennaf 1926.