CATHERINE JANE OWENS. SYRACUSE, ONONDAGA, NEW YORK.

Ganwyd Mrs. Edwards yn mhentref Caellwyngrydd, Llanllechid, Arfon; yn ferch i'r diweddar Mr. a Mrs. Lewis Owen, oeddynt yn byw ar y pryd yn Bryn Owen Street. Gadawodd gartref pan yn lled ieuanc i fyned i wasanaeth yn Brynsiencyn, Mon. Tra yn aros yno fe ymbriododd gyda Hugh Edwards. Saer maen oedd Mr. Edwards wrth ei alwedigaeth, ac fel y cyfryw dan orfod i symud yn aml.

Yn lled fuan wedi priodi daethant i fyw i bentref Bethel, ger Caernarfon, lle y ganwyd iddynt ddau o fechgyn, sef Goronwy Edwards a Lewis Edwards, Goronwy yn awr yn dal swydd bwysig yn ngwasanaeth y New York Mills Corporation; a Lewis yn cynorthwyo F'Ewyrth Sam i wneyd llongau yn nghwmwd Philadelphia. Gadawodd y teulu yr Hen Wlad yn lled foreu yn eu hanes, Mr. Edwards yn gyntaf, gan ymsefydlu yn Cambria, Wisconsin, lle y dylynwyd ef gan Mrs. Edwards a'r ddau fachgen. Symudasant oddi yno i South Chicago, ac oddi yno i Milwaukee, ac oddi yno i Wilkes-Barre, ac yn ddiweddaf i New York Mills, lle y mae y teulu wedi bod yn fawr eu parch hyd heddyw.

Tua tair blynedd yn ol bu farw Hugh Edwards.

Yn ychwanegol at y ddau fachgen a enwyd, ganwyd i Mrs. Edwards amryw blant, Mathew a John, pa rai sydd yn gweithio fel seiri i'r New York Mills Corporation, ac amryw ferched nad wyf yn gwybod eu henwau. Mae Mrs. Edwards wedi gweled llawer tro ar fyd fel y dywedir, ac wedi cael rhan dda o'i wenau a'i wg, ond er pobpeth wedi dal yn dda, ei bod yn dirf ac yn iraidd er yn dechreu myned yn hen.

Dymunwn iddi brydnawn ddydd einioes tawel a'r nefoedd yn gartref, na bydd byth angen am ei newid.
Oliver.

Y Drych ~ Gorffennaf 11eg, 1918.