MR. HUGH LLOYD ROBERTS. 788 RIVERSIDE DRIVE, MANHATTAN, NEW YORK.

UN O GYMRY LLWYDDIANUS NEW YORK.

Ceir yn New York amryw Gymry llwyddianus, y rhai sydd wedi llwyddo yn fawr yn y blynyddoedd diweddaf fel masnachwyr, adeiladwyr a rhai yn llenwi swyddau pwysig fel Capten David J. Roberts, E. C. Morris, T. Bowen, William McDonald; ond a Mr. Hugh Lloyd Roberts y mae a fynwyf yn yr ysgrif hon.

Adeiladydd ydyw Mr. Roberts, ac un o adeiladwyr pwysig y ddinas. Bu Mr. Thomas Jones yn archadeiladydd yn y ddinas unwaith; ond y mae efe wedi cilio o'r gystadleaiaeth i fwynhau tawelwch diwedd einioes ar ffrwyth ei lafur. Ond parha Mr. William R. Hughes — gwr caredig a chalon agored, a Mr. H. L. Roberts, yn y gystadleuaeth; a chan eu bod yn ddynion canol oed y peth tebyg ydyw y parhant yn y gwaith am flynyddoedd, er fod y ddau eisoes yn gysurus eu hamgylchiadau ac yn annibynol.

Un o'r Felinheli yw Mr. Roberts, neu yn ol yr enw a arferir yn awr am y lle, Portdinorwic, yn sir Gaernarfon, ac yn wir, o fewn pum milldir o'r ddinas hono.

Y mae efe yn fab i Mr. a Mrs. William Roberts o'r faes-dref hon, y rhai sydd eto yn fyw. Yn y lle hwnw y dechreuodd Hugh anadlu; yno y dysgodd ei waith fel adeiladydd priddfeini; ac oddi yno y daeth pan yn fachgen ieuanc main, chwyrn, ac yn siarad mor gynte4 a symudiad trydaniaeth i'r ddinas hon. Cafodd waith yn ebrwydd ar ol iddo gyraedd yma ar adeilad a godid y pryd hwnw, sef yn y flwyddyn 1887, ar waelod Broadway.

Er mai ieuanc ydoedd derbyniai y cyflog uchaf, er nad oedd un math o undeb y pryd hwnw yn sicrhau hyny iddo ef. Ei fedrusrwydd ef yn y gwaith a sicrhaodd y cyflog uchaf iddo; a chan ei fod yn wr ieuanc sobr, crefyddol a da ei foes, dechreuodd gasglu arian nas gwyddai yn iawn beth i wneyd a hwy. Felly y bu am rai blynyddoedd yn gweithio am gyflog.

Yn y man, ar ol dod i ddeall y ddinas yn dda, ac i ddeall ei waith mewn ystyr fasnachol, ymgymerodd ef, ac un arall fel partner iddo, ac adeiladu ei hun; hyny yw, aeth i'r busnes o adeiladu tai yn y ddinas. Er ei fod wedi cynilo a hel tipyn o arian, nid oedd hyny ond megys diferyn i feddwl prynu lotiau, ac i adeiladu tai mawrion arnynt mewn dinas fel New York. Pa fodd bynag i'r busnes yr aed; a chan ei fod yn ddyn ieuanc, gweithgar, sobr a gonest, ni byddai yn cael llawer o anhawsder i gael arian i gario y gwaith yn mlaen.

Nid oes angen i mi fyned i un math o fanylion pellach am ei fusnes. Yn raddol dechreuodd lwyddo, a llwyddo yn fwy-fwy. Prynid lotiau yn lleoedd cynyddol y ddinas; adeiledid flatiau mawrion o bum uchder, neu bump o dai, fel goruwch ystafell-oedd, uwch law y llall, yn ol dull New York o adeiladu, a gwerthai y tai hyny am $25,000 ac i fyny. Yn y dull hwn y mae wedi adeiladu degau o dai mawrion, pe buasai yr oll o honynt gyda'u gilydd buasent yn ffurfio tref fechan.

Ar ol rhai blynyddoedd o lafur daeth ef a'i bartner i sefyllfa annibynol o ran eu hamgylchiadau, fel y maent yn gallu cario eu gwaith yn mlaen a'u cyfalaf eu hunain, ac yn rhoddi gwaith i ugeiniau o ddynion. Nid ydyw, fel y deallwyf, yn cario ei waith yn mlaen y flwyddyn hon, am y rheswm hwn, ar ol i Wilson fyned yn Arlywydd nid oes arian yn y busnes. Y mae y wlad yn myned trwy y sefyllfa boenus o lefelu i lawr yn ei masnach, a thra y bydd masnach yn y cyflwr hwn nid dyogel yw prynu lotiau mewn dinas fel New York. Pwy wyr yn well na Hugh Lloyd am hyn?

Pan yn dweud fod ganddo bartner nid at Mrs. Roberts, ei briod, yr wyf yn cyfeirio. Ganwyd hi yn Scranton, Pennsylvania, ac os ydyw Mr. Roberts yn wr caredig hael, agored ei galon — canys felly yr ystyrir ef, nid yw Mrs. Roberts yn llai felly. Y mae ganddynt ddau fab — Llewelyn a Meredydd, y cyntaf yn parotoi ei hun i fod yn gyfreithiwr, a'r llall yn yr ysgol; dau wr ieuanc iach a bywiog, ac yn debyg o wneyd eu marc mewn bywyd. Y maent wedi prynu ty hardd i fyw ynddo a hwnw mewn lle prydferth ar y ddinas, ac yn ngolwg yr Hudson River.

Creda Mr. Roberts nid yn unig mewn enill arian, ond yn eu gwario hefyd i'r fantais oreu iddo ei hun ac i'w deulu. Bu y teulu oil am daith yn California er's tipyn o amser yn ol; ac ar y daith hono, tra yn Wisconsin, daeth lladron i mewn i'r tren gan feddwl ysbeilio y teithwyr, ond gorchfygwyd hwy. Ar y daith hon buont ar ymweliad a Yellow Stone Park a lleoedd eraill pwysig. Blwyddyn i'r haf hwn buont drachefn ar ymweliad a'r hen wledydd — Itali, Germani, Ffainc, a gwledydd eraill. Bu Mr. Roberts yn teithio drwy weddillion hen ddinas Pompii a ddinystriwyd yn niwedd oes yr Apostolion gan y lafa berwedig a chwydwyd i fyny o galon y Vesuvius. Dyddorol yw gwrando arno yn dweyd yr hanes am ei ymweliad a'r lle hwn, ac a llethrau y mynydd tanllyd, ac yn enwedig a'i ymweliad a'r Catacombs yn Rhufain, a'i sylw o hen wraig fach Babyddol yn ceisio neidio i fyny fel ceiliog dandi i roi cusan i fawd troed Pedr oedd yn uwch na'i phen. Dywed fod bawd troed yr hen Bedr, er ei bod yn efydd caled, wedi treulio ar y ddelw o hono wrth i'r ffyddloniaid ei gusanu.

Y mae Mr. Roberts yn aelod ffyddlawn o gymdeithas yr Iforiaid, ac wedi bod yn llywydd arni, yn swyddog yn nghymdeithas St. David, yn ymddiriedolwr am flynyddoedd yn eglwys yr Annibynwyr 11th Street, yn yr hon y mae Mrs. Roberts yn aelod, ond i'r eglwys, Esgobaethol y mae ef yn perthyn, ac y mae yn gwasanaethu ynddi er's tro bellach fel un o'r casglyddion.

Gofala yn garedig am ei rieni yn Nghymru, ac nid yw yn beth pwysig yn ei olwg i groesi y mor i edrych am danynt.— Y Saer.

Y Drych ~ Gorphennaf 9fed 1914.