MRS. ELIZABETH ANN JONES, POULTNEY, RUTLAND, VERMONT.

Yn 73 mlwydd oed bu farw y chwaer annwyl a gofalus, Elizabeth Ann Pritchard, bore Gwener, Medi 15fed, wedi cystudd maith a chaled o ddwy flynedd.

Merch ydoedd i Rhys ac Ann Jones, Penybryn, Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru.

O'r plant mae eto yn aros dri brawd, Hugh Jones, Kirkby in Furness; Parchedig Rhys Jones, gweinidog gyda Wesleiaid Cymraeg yn Bootle, Liverpool, ac Owen R. Jones, Poultney, Vermont. Unwyd hi mewn glan briodas â Richard Pritchard, Penybryn, Bethesda, Ionawr 11ed, 1882. Pe wedi cael byw hyd Ionawr 11eg, 1934, buasent wedi bod am 50 mlynedd mewn clwm priodasol.

Ganwyd o'r briodas dair merch, Mrs. Edwin Jones, Poultney, Vermont; Mrs. J. Sullivan, Glens Falls, New York a Mrs Paul Schulz, New York. Ymfudodd o Gymru yn Mai, 1914, gan wneud ei chartref yn Poultney hyd y diwedd, lle mae llu o'i chyfeillion yn aros mewn galar ar ei hol.

Cymrodd ei hangladd le dydd Llun dilynol yn yr addoldy Cymraeg. Gweinyddwyd yn yr angladd gan ein gweinidog, y Parch. D. C. Davies. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i un oedd mor annwyl ganddynt.

Yr oedd y blodau hardd lluosog yn tystio mor gymeradwy ydoedd gan ei ffrindiau o bell ag agos. Gobaith y gymuned a'r capel yw i'r teulu gael nerth o golli annwyl wraig a mam. Heddwch i'w llwch.

Y Drych ~ Medi 28ain 1933 ~ H. H. Parry.