MARY (OWENS) ROBERTS. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Derbyniodd Mrs. A. Williams, 5, Felin-gerrig, Llanllyfni, newydd am farwolaeth ei chwaer, Mrs. Mary Roberts, yn Granville, New York (gynt o Cil Llidiart, Nebo, Llanllyfni), priod Mr. David Thomas Roberts (gynt o Ty Ffowc, Nebo).Yr oedd Mrs. Roberts yn 78 mlwydd oed, a bu'n wael ers tua dwy flynedd. Bu'r angladd ar y 23ain o Fedi 1933.
Gadawodd i alaru ar ei hol, briod, meibion a merched. Mae chwaer arall iddi, Mrs. Elizabeth Thomas, yn trigo yn Hafod Esgob, Nebo, a brawd Mr. William Owen yn Nhalysarn.