MR. WILLIAM LEWIS WILLIAMS, IOWA, USA.

Fel y mae yn gofus gan ein darllenwyr weled nodiad yr wythnos ddiwethaf am farwolaeth y brawd hwn o Abergynolwyn, yr hyn a gymerodd le yn Iowa U.D., Amerig.

Ganed ef yn Gamallt, Abergynolwyn, Ebrill 16, 1863.

Pan yn 21 oed bu iddo ymadael am wlad y gorllewin ac ymsefydlu yn Nebraska hyd 1887, pryd yr ymfudodd i Iowa, lle y bu iddo dreulio'r gweddill o'i ddyddiau mewn gweithgarwch, ac ynghanol hoffter ei gydnabod oll. Bu farw ei briod a'i unig fab yn 1910, yntau'n cael ei adael gyda'i bedair merch, y rhai sydd bellach yn briod ag eithrio un, sef Miss Frances Williams.

Gedy'r ymadawedig bedair chwaer hefyd yn y cyffiniau hyn, sef Mrs. Hunter, Mrs. H. R. Ellis, Mrs. R. Ellis a Mrs W. Griffiths.

Talodd ymweliad a Chymru yn 1909 a threuliodd yr haf hwnnw yn yr hen fro a'r cylch.

Bu am y 40 mlynedd diwethaf yn ofalydd ysgol gynradd ei dref ac ysgolion eraill.

Yr oedd yn ffyddlon ac egniol hefyd yn eglwys Annibynnol y dref, ac yn aelod o Gyfrinfa'r I.O.O.F. a'r Rechabiaid.

Cafodd chwech wythnos o gystudd blin a bu gfarw ohono ar y 20fed o Ionawr. Claddwyd ef yn mynwent Bryn Derw, Iowa, gyda'r Parchn. Mills, Hodgson a Cochran yn gweinidogaethu yn yr angladd lluosog. Eang ein cydymdeimlad a'r teulu oll ymhell ac agos.


LATE MR. W. L. WILLIAMS.

The death of Mr. W. L. Williams, a native of Abergynolwyn, occured at his residence in Iowa, USA., on January 20th.

Deceased was the son of the late Mr. and Mrs. Lewis Williams, Gamallt, left for America in 1884, and settled at Nebraska, whence he moved to Iowa in 1887, and since had held the post of janitor of the Public and Grade Schools of the city.

His wife (nee Annie Jones) predeceased him some 22 years ago, in which year his only son died in infancy.

He is survived by four daughters residing in the states. Mr. Williams was a member of the Congregational Church, and of the I.O.O.F. and rebecca Lodges.

Internment was made at Oak Hill Iowa, the Revs. Miles Hodgson and Cochran officiating. Sympathy is extended to his four surviving sisters : Mrs. Hunter, Mrs. H. R. Ellis, Mrs. Robert Ellis and Mrs. William Griffiths and other relatives.