JOHN R. MORRIS. CARROLL, WAYNE COUNTY, NEBRASKA.

WAYNE NEBRASKA. Mawrth 12fed, 1893. Dyma brif dref y Sir, ac y mae yn un o'r trefydd bach prydferthaf yn ngogledd ddwyrain Nebraska. Sefydlwyd hi oddeutu un mlynedd ar ddeg yn ol, pan oeddynt yn adeiladu ffordd haiarn y Minneapolis, St. Paul and Omaha R. R. trwy ddyffryn prydferth y Logan. Saif ar le dymunol, ei gorweddiad i'r de ddwyrain, a'r rhan helaethaf o honi ar lechwedd bryn, fel y mae yn iach a hyfryd i fyw ynddi. Cynwysa oddeutu dwy fil o boblogaeth, y rhan fwyaf o honynt yn Americaniaid. Cyfrifir hi yn dref gyfoethog yn ei dinaayddion, oblegid y mae yma luaws yn byw ar log eu harian; hefyd y mae ynddi fanteision addysg helaeth ysgolion dyddiol heb eu gwell yn y Dalaeth, a Normal College a adeiladwyd ychydig dros flwyddyn yn ol, yn cynwys yn bresenol dros ddau cant o efrydwyr. Oherwydd hyny y mae amryw deuluoedd yn dyfod yma i wneyd eu cartrefi er mwyn eu plant.

Y mae cymdeithas dda yma hefyd - yn foesol a chrefyddol. Ceir ynddi chwech neu saith o gapeli gan y gwahanol enwadau, a chynulleidfaoedd lluosog yn perthyn iddynt, yr hyn sydd yn argraff o gymdeithas dda, am fod dydd yr Arglwydd yn cael ei barchu gan ei thrigolion. Y mae ffurf adeiladau y dref yn addurn iddi; rhai o honynt yn bur gostfawr. Mae masnach hefyd mor fywiog ag y gellir dysgwyl. Gorwedda tir ardderchog am filldiroedd o amgylch y dref, yr hyn sydd yn esboniad am ei llwyddiant. Amrywia pris y tir yn ol ei safle, o $15 i $40 yr erw. Mae yn y dref bedwar neu bump o deoluoedd Cymreig. ac yn en plith ceir y Parch. Samuel Jones, gynt o Gomer, Iowa, yr hwn sydd yn gweinyddu i, ac yn bugeilio eglwys yr Annibynwyr yn y Sefydliad Cymreig sydd yn gorwedd oddeutu pymtheg milldir i'r gorllewin oddiyma.

Deallwyf ei fod yn ddefnyddiol a derbyniol gan y brodyr a'r ardal yn gyffredinol. Efe ydyw sylfaenydd a thad y ddeadell Annibynol yn y Sefydliad, ac yn wir y mae wedi gweithio yn ardderchog trwy aberthu ei amser a chyfranu at yr aohos yn ei fabandod, fel trwy ei offerynoliaeth ef yn benaf maent wedi adeiladu capel hardd, teilwng o unrhyw le. Er ei fod wedi gwneyd ei gartref yn Wayne o herwydd manteision tref, y mae yn ffyddlon bob dydd Sadwrn yn myned i'r sefydliad i'w alwedigaeth erbyn y Sabboth. Pregethwr nerthol a chadarn ydyw Jones.

Wyth mlynedd yn ol i'r gwaawyn presenol yr oedd yr ysgrifenydd yn un o bedwar yn cyrorthwyo rhoddi ty John R. Morris i fyny, yr hwn oedd y ty cyntaf gafodd ei adeiladu yn Sherman Township, ond erbyn haddyw y mae yn nghanol sefydliad Cymreig, yn cynwys deugain o deuluoedd, heblaw llu o feibion a merched ieuainc dibriod, a'r mwyafrif o bonynt wedi ymfudo yma o ardal Gomer, Iowa. Gallwn ddweyd am danynt fel rheol eu bod wedi llwyddo yn anghyffredin o dda, trwy ddiwydrwydd a chodiad yn mhris y tir, fel y maent yn lled gysurus eu hamgylohiadau, ac yn abl i roddi derbyniad croesawus i'w cydgenedl pan ymwelant a hwy, oblegid y mae yn perthyn iddynt garedigrwydd Oymry Gomer, Iowa.

Er fod y tir wedi codi yn ei bris, fel mae tir prairie yn gwerthu yn bresenol am $15 yr erw, a thir diwylliedig am $25 yr erw, eto y mae yma filoedd lawer o erwau o dir da ar bwys; y Sefydliad yn agored i Gymry, os dewisant, a wnant gartrefi cysurus ar delerau rhesymol, lle gallant fwynhau cymdeithas a breintiau Cymreig yn ngwir yntyr y gair. Mae yn y Sefydliad ddau gapel hardd wedi eu hadeiladu yn ddiweddar - un gan y T. C, lle mae y Parch. David Ll. Hughes yn gweinidogaethu, a'r llall, fel y crybwyllwyd, gan yr Annibynwyr, o dan ofal y Parch. Samuel Jones.

Y mae cryn dipyn o ymholi y dyddiau hyn gan Gymry y Dwyrain am y sefydliad hwn, ac yn ol pob tebyg bydd llawer yn ymfudo yma yn nghorff y flwyddyn hon. Edryched y Cymry sydd yn chwilio am gartrefi ati mewn pryd cyn i genedloedd eraill gymeryd y tir i fyny. Y mae y tir yn codi yn ei bris yn gyflym, a chredwn y cyfyd ei bris yn nghorff y pum mlynedd dyfodol ddeg dolar yr erw yn rhagor yn y parthau hyn.

Y Drych ~ Mehefin 1901.