ANNIE JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

On Thursday, at the Tabernacl, Pwllheli, a wedding of great interest in local quarry and business circles was solemnised, the parties being Mr. R. G. Pierce, Haddington, America, and Nurse Ann Jones, Colwyn Bay.

The Revs. H. rees and peter Jones, Colwyn Bay, officiated. The ceremony was witnessed by a large number of friends, amongst whom were Mrs. J. N. Edwards, Berlin House; Mr. and Mrs. Robert Pugh, Mr. W. Jones, Penbryn Isaf, Talsarnau, etc.

Mr. Pierce is a well known native of the district, who went to America many years ago. He is now principal owner of several valuable quarries in Haddington, and holds a prominent position in the slate trade.

Caernarvon and Denbigh Herald ~ December 2nd, 1904.


ANNIE JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Dywedodd Rupert Brooke, y bardd a'r llenor ifanc addawol, pan dorodd y Rhyfel Mawr allan, lle bynnag y byddai farw, ac ym mha le bynnag y gosodid ei gorff i orwedd y byddai "man fechan ei fedd" yn cynrychioli darn o Loegr. Carai ei wlad yn angerddol, rhoddodd ei fywyd drosti a gorffwys ei lwch yn un o ynysiedd unig Mor y Canoldir, ond yn sicr ni all unrhyw Brydeiniwr sefyll yn yml y gangre gysegredig heb deimlo, er iddo fod ymhell o'i famwlad, fod y darn hwnnw o dir yn "lle sanctaidd," a bydd barod i diosg ei esgidiau a theimla nad oes umrhyw ddarn o Loegr yn fwy gwerthfawr.

Gall llawer ohonom dystio am Gynru fo pob "dyffryn a chlogwyn" ohoni yn gysegredig yn ein golwg, ond y mae ambell lecyn a beddrod yn yr America fel darn o Gynru yn ein golwg, oblegid y gorwedd yno weddillion Cymry na lwyddodd newid gwlad, a byw yn hir yn y Taleithiau, oeri dim ar eu cariad a'u serch tuag at "Wlad y Bryniau."

Yng nghladdfa gyhoeddus Slatington y gorffwys Crych Elen, awdur "Y Bwthyn Bach To Gwellt," yn ei yml bedd Robert G. Pierce, y Cymro aiddgar achubodd gorff Crych Elen rhag cael ei werthu am ychydig ddoleri i'r meddygon, a phrynhawn Mercher, Hydref 3ydd, gosodwyd i orwedd yno yr hyn oedd farwol o Mrs. Pierce, ac er cymaint o ysbryd cenedlgarol nodweddai Crych Elen a Robert Pierce, ni wnai'r ddau ynghyd gystadlu a Mrs. Pierce yn ei syniad uchel am Gymru, Cymro a Chymraeg. A oes unrhyw fan yn yr Amerig yn cynrychioli mwy o Gymru na'r llecyn yma yn Fairview Cemetery, Slatington.

Enw morwynol Mrs. Pierce oedd Annie Jones. Bu farw yn ei chartref ar Main Street, Slatington, Medi 30ain. Bu'n gwaelu ers blwyddyn. Rhagflaenodd ei gwr hi yn 1922.

Ganwydd Mrs. Pierce yn Rhiw, Aberdaron, Gogledd Cymru, merch i'r diweddar Richard a Catherine Jones. Unwyd hi mewn priodas a Mr. R. G. Pierce yn Rhagfyr, 1904 a daeth i'r wlad hon.

Gadawodd ei chartref yn bur ifanc, aeth i Lerpwl, lle y pasiodd yn trained nurse. Yn fuan wedi hyn eisteddodd arholiad as swydd bwysig mewn ysbyty yn Winnipeg, Canada; penodwyd hi allan o hanner cant, hwyliodd i Canada, ond nid oedd hinsawdd y wlad honno yn dygymod a hi, ac ni bu ei harosiad yno yn hir.

Dychwelodd i Gymru, a dewiswyd hi'n matron yn y Cottage Hospital yn Mountain Ash, De Cymru. Bu hefyd am gyfnod yn matron yn Abertawe ac yn Colwyn Bay.

Wedi sefydlu yn y wlad hon pan oedd yr amgylchiadau gweithfaol yn llawer mwy llewyrchus nag y maent heddiw, yr oedd iddi hi a'i phriod hynaws feddiant lawer y "dyddiau hynny," ac ni bu deuddyn erioed fwy haelionus. Yr oedd drws agored a bwrdd llawn bob amser yn y cartref, a chroesaw Cymreig, yn enwedig i ymwelydd o'r Hen Wlad. Bu Mr. a Mrs. Pierce yn aelodau amlwg, haelionus a ffyddlon yn yr Eglwys Fedyddiol.

Gedy Mrs. Pierced i alaru ar ei hol, un mab, Robert gartre; dau lysfab, Rowland a George, un yn Palmerton a'r llall yn Slatington; dwy lysferch, Mrs. William Lloyd yn Llundain, a Mrs. Harry Morgan, Slatington; hefyd un mab mabwysiedig, Howard gartre. Y mae iddi un chwaer, Mrs. Richard R. Williams, Rome; un brawd, John R. Jones, Almira, Washington; un hanner brawd a dwy hanner chwaer, Richard Jones, Ty fair, sarn; Mrs. Ellen Roberts, Criccieth, a Nurse Mary P. Jones, yn Lloegr.

Claddwyd ei gweddillion dydd Mercher, Hydref 3ydd, ym mynwent Fairview, wrth ochr ei phriod. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan T. Teifion Richards, Scranton, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch W. C. Evans, gweinidog y Presbyteriaid Saesneg, Slatington. Canwyd yn felys gan bedwarawd o Gapel y Bedyddwyr Cymraeg. heddwch i'w llwch.
Teifion.

Obituary.


ANNIE JONES. SLATINGTON, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.

Ann, widow of Robert G. Pierce, died Sunday morning at her late home, 556 Main Street, Slatington, after a six month months' illness. Her husband a slate quarry operator for many years, preceded her in death a number of years ago.

Mrs. Pierce was born in Wales, a daughter of the late Richard and Catherine Jones, and came here in her early youth. She was a member of the Baptist Church of Slatington.

Surviving are one son, Robert, at home; two step sons, Rowland and George, of Palmerton and Slatington respectively; two step daughters, Mrs. William Lloyd, London, England, and Mrs. Harry Morgan, Slatington; one adopted son, Howard Pierce, at home; one sister Mrs. Richard Williams, Rome, New York; one brother , John R. Jones, Almira, Washington; one step brother and two step sisters; Richard Jones, Mrs. Ellen Roberts and Miss Mary Jones, all in Wales.

The funeral will be held from her late home, Wednesday afternoon at 2 o'clock. Burial will be made in Fairview Cemetery, Slatington. Friends may call at her late home Tuesday evening fron 7 to 9 o'clock.

Find a Grave.