Y BARNWR WILLIAM H. THOMAS. SANTA ANA, CALIFORNIA.

Gyda hyfrydwch yr ydwyf yn cyflwyno i sylw darllenwyr y "Drych" ddarlun o wr o'n plith fel cenedl ag sydd yn llanw swydd o urddas a chyfrifoldeb mawr yn Nhalaeth Califfornia. Y mae wedi enill y safle yn nerth penderfyniad a ffyddlondeb di-wyro i egwyddorion uniondeb; Cymro, ar gyfrif ei nodweddion rhagorol fel dinesydd a Christion, y dylem fel cenedl fod yn falch o hono, a llawenychu yn ei lwyddiant a'i ddyrchafiad.

Mab ydyw y Barnwr Thomas i Mr. a Mrs. Hugh Thomas, Lime Springs, Iowa. Ganwyd ef yn Caernarfon, Gogledd Cymru, Hydref 23ain, 1868. Daeth gyda'i rieni i'r wlad hon yn 1874, gan ymgartrefu am nifer o flynyddau yn Remsen, New York; pryd, yn 1878, y symudasant i Dalaeth Iowa. Bu am nifer o flynyddau yn teithio dros y Davies Sewing Machine Company. Penderfynodd gymeryd cwrs cyfreithiol, a bu yn efrydu y gyfraith yn swyddfa y cyn Farnwr John A. Lovely, Albert Lea, Minnesota. Wedi gorphen ei dymor, y mae yn sefydlu fel cyfreithiwr yn Leeds, North Dakota, lle y preswyliodd hyd 1909, pan y symudodd i Santa Ana, California. Daeth yn fuan i sylw fel cyfreithiwr medrus, ac fel gwr o farn addfed. Cafodd ei benodi gan y Llywodraethwr Hiram Johnson yn un o farnwyr y Superior Court yn Swydd Orange. Yn 1919, cawn ef yn cael ei ddyrchafu gan y Llywodraethwr Stephens i fod yn un o'r saith barnwyr yn yr Appellate Court, Califfornia, yr hon swydd a lenwir ganddo yn bresenol gydag urddas ac anrhydedd.

Ond er amlder ei ddyledswyddau fel barnwr un o lysoedd uchaf y Dalaeth, myn hamdden i ysgrifenu ar faterion moesol a chrefyddol, yr hyn ddengys y dyddordeb dwfn a deimla yn mhethau penaf a mwyaf cysegredig ein gwlad. Ysgrifenodd amryw erthyglau gwerthfawr i'r "Christian Statesman" ar "Briodas ac Ysgariaeth." Yn yr un cyhoeddiad am fis Tachwedd, 1916, ymddangosodd ysgrif gref o'i eiddo ar y "ddiod feddwol fel arch-elyn y cartref." Traddodwyd anerchiad campus ganddo enill," yr hwn sydd wedi ei gyhoeddi enill," yr hwn sydd wedi ei chyhoeddi yn llyfryn bychan destlus. Anerchiad arall o'i eiddo ag sydd wedi ei chyhoeddi yn llyfryn bychan ydyw yr un dan y teitl o gyfarchiad Nadolig, ac yn hon daw yn amlwg i'r golwg ei ysbryd crefyddol.

Nis gallaf wneyd yn well, er rhoddi syniad i'r darllenydd am ragoriaeth y dyn, na dyfynu brawddeg ag sydd yn ddangosiad lled eglur o'r naws grefyddol a'i meddiana: "When the forgiving Christ is lifted up, He draws all men unto Himself. Religion taking on the form of the incarnate friendship behind prison walls, in hospitals, in mines, in factories, and in warehouses, gradually makes men immune to temptation. When most of the business of the country is under the control of large corporations, and when these corporations have Christianized directors, they will apply the principles of the lowly Nazarene in their business, and this in turn will bring about brotherhood, so that employer and employee with each strive to help the other, and patriotism will become instinctive and universal. Indeed, when the people see that religious men have valiantly and patiently united with them to make justice legal and sure, they will be more inclined to reverence religion."

Ond er amled ei ddyledswyddau ynadol, ni adewir i'r rhai hyn ddifwynp ei grefydd na llesteirio ei wasanaeth i'r eglwys, a ba un y mae yn aelod, ac yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Da genyf ddeall nad ydyw wedi tyfu allan o'r cyfarfodydd crefyddol, ac nad ydyw wedi syrthio i'r camsyniad dybryd y gellir byw yn dduwiol ar draul diystyru y cyfarfod gweddi. Ni chyfynga prysurdeb ar ei ddeffosiwn, ac ni chymer ei ddifuddio o gymdeithas y saint. "Efe a yf' o'r afonydd hyn ar y ffordd, ac am hyny y dyrcha efe ei ben."

Y mae yn siaradwr cyhoeddus effeithiol, yn effeithiol am ei fod o ddifrif, ac am nad ydyw yn ymgais am effaith. Cefais y fraint yr haf diweddaf o'i glywed yma yn traddodi anerchiad byw ar "Wasanaeth yr Eglwys ar ol y rhyfel." Yr ydoedd yn galw i weled ei rieni ar ei ffordd adref o Gymanfa Gyffredinol yr Henaduriaethwyr, yn mha un yr oedd wedi bod yn gweithredu ar amryw o'r pwyllgorau pwysicaf.

Mae yn barod bob amser i roddi ei wasanaeth pan elwir arno, ac i neb yn fwy na'r genedl i ba un y perthyna. Y mae yn Gymro twymgalon, ac heb annghoflo ei ddyled i'r addysg a gafodd yn yr Ysgol Sabboth Gymreig.

Dylem ddweyd ddarfod iddo ymuno mewn priodas a Miss May J. Perry, Postville, Iowa, Mehefin 15fed, 1892, ac ynddi hi cafodd wraig ag sydd mewn llawn cydymdeimlad a'i waith, ac yn gyfryw ag sydd yn teimlo dyddordeb dwfn yn mhob symudiad ag sydd a'i amcan i ddyrchafu dynoliaeth, yn foesol ac ysbrydol.

Bydded i'r Barnwr William H. Thomas a'i deulu gael mwynhau llawer o flynyddau, a'r rhai hyny yn esgyn yn uwch mewn dylanwad a defnyddioldeb fel yr elont yn mlaen.
Gan y Parch. David Edwards, Lime Springs, Iowa.

Y Drych ~ Rhagfyr 25ain, 1919.