MR. ENOCH E. WILLIAMS, WILKES-BARRE, LUZERNE, PENNSYLVANIA.

Mae genyf y gorchwyl annymunol o hysbysu i ddarllenwyr y "Drych" a lluaws mawr drwy yr ardaloedd yn y wlad hon a'r Hen Wlad am y ddamwain dost a ddygwyddodd i'r hen gyfaill anwyl Enoc Williams ar y 14eg o'r mis hwn, tra wrth ei alwedigaeth yn y pwll glo yn South Wilkes-Barre, trwy i ddarn o'r glo syrthio arno yn ddisymwth, a chymeryd ei droed ymaith. Awd ag ef mor gynted ag yr oedd modd i'r ysbyty, ac yma bu rhaid cymeryd rhagor o'r goes ymaith er mwyn achub ei fywyd, ac yn awr y mae yn teimlo gystal ag y dysgwylid ar ol y fath driniaeth beryglus.

Gresyn meddwl fel y mae yr hen gyfaill yn dyoddef mor galed trwy y damweiniau fel hyn. Dyma y drydedd ddamwain iddo er pan y mae yn y gwaith glo, a'r tair yn rhai tost neillduol, ond credaf mai hon yw y dostaf o'r tair. Trueni fel y mae bachgen mor ddymunol ag Enoc Williams yn dyoddef fel hyn yn barhaus, anhawdd esbonio pethau o'r fath. Gallaf ddweyd yn hyawdl na fu un caredigach yn y wlad, a pe buasai Rhagluniaeth wedi rhoddi cyfoeth iddo, ni fuasai neb yn dyoddef yn agos ato, ac am hyn cofiwn ninau ei efelychu yn hyny, ac fel Cymry y gymydogaeth gofio am dano a'i gadw mor hapus ag y mae modd. Y mae wedi dyoddef digon yn barod. Fe ddichon fod pawb o'r bron yn ei adnabod.

Fe'i ganwyd yn Bryn 'Refail, ond yn Cwm-y- glo y magwyd ef. Hefyd y mae pobl Slatington a Bangor yn ei adnabod, ac yn ei hoffi yn fawr. Y mae yn gerddor ac arweinydd a dadganwr o nod; fe gofiwch am dano yn cipio y brif wobr gyda ei gor yn Eisteddfod Dr. Cynonfardd, sef Mawrth 15fed 1918, ac yn cael ei wisgo a gosod y medal aur ar ei frest yn goffadwriaeth am y fuddugoliaeth.

Pan eis i'r ysbyty i'w weled, gwelais ryw un yn ngwisg yr ysbyty yn ffanio iddo, ac wedi edrych arno yn fanwl, gwelais mai fy hen gyfaill Edward Evans, sef Ned bach saermaen, bachgen arall o'r Cwm, yntau yn cael operation ar ei lygaid, ac wedi myned braidd yn ddall, ond yn gwella yn raddol. Wedi hyn aethym i ystafell y merched, ac yma eto yr oedd Mrs. Glasser, ond cyn priodi Nellie Hughes. merch Mr. a Mrs. Owen Hughes, ei thad, pan yn fyw yn fire boss am flynyddau o dan y Lehigh and Wilkes-Barre Coal Company, yn No. 20 Ashley, hithau eto wedi bod dan driniaeth y gyllell, ac yn gwella yn rhagorol. Mae y Parch. Dr. Hughes. Holland Patent, yn ewyrth iddi, brawd ei thad. Eto. wedi edrych o gwmpas, er fy syndod canfyddais ei chwaer Mary, sef Mrs. John Davis, gynt o Utica. wedi dod i ofalu am ei chwaer. Mrs. Glasser. Yr oedd yn dda genyf ei gweled yn edrych' mor dda a siriol.
Gan Harri o Wynedd.

Y Drych ~ Medi 5ed, 1928.


MR. ENOCH E. WILLIAMS, WILKES-BARRE, LUZERNE, PENNSYLVANIA.

Hundreds of friends and relatives attended funeral services of Enoch E. Williams, well known baritone and choral leader of the Rolling Mill Hill section, yesterday afternoon at the home of his daughter, Mrs. Theodore Seymour, 285 Stanton Street. Further serviced were conducted at Bethel Baptist Church by Rev. Gomer Evans.

Assisting Rev. Evans were Rev. William Owen of Warrior Run, Rev. Robert Cornell of Parrish Street, M. E. Church, Rev. John M. Owen of Second Welsh Congregational Church. Three favourite hymns of the deceased were sung by the congregation with Mrs. Evans at the organ.

Bearers were John O. and Enoch C. Williams, sons of the deceased; Stephen Wasley, Walter Young, Theodore Seymour and Frank Hughes, sons-in-law. Flower carriers were Jane Wasley, Dorothy Young, Catherine Hughes, Gilbert Seymour, William Williams, Jack Williams, Jack Young and Frank Hughes, grandchildren.

Internment was in Fern Knoll Burial Park, Dallas.

Marwolaeth Enoch E. Williams.


MR. ENOCH E. WILLIAMS, WILKES-BARRE, LUZERNE, PENNSYLVANIA.

Singer and Chorus Director Came From Wales.

Enoch E. Williams, 72, widely known singer and chorus director of Rolling Hill Mill section, died yesterday afternoon at the home of his daughter, Mrs. Theodore Seymour, 285 Stanton Street, after an extended illness.

Born in Cwm-y-Glo, Caernarvonshire, April 1st, 1863, Mr. Williamd came to this country in 1888 and settled in Slatington. Later he moved to Bangor and then to West Virginia. Twenty six years ago, Mr. Williams took up his residence in this city.

Mr. Williams had been a member of the Slatington Male Chorus and for eight years led the Presbyterian Church Choirat that place. He was a successful director of a number of prize winning choruses and had a reputation as a baritone singer. He was a member of Bethel Welsh Baptist Church.

Mr Williams was married twice. His first wife died several years before he came to this country and his second wife died 18 months ago.

Surviving are seven children : Daniel Henry Williams of Cwm-y-Glo, Wales, by his first wife; and Enoch C. Williams, Mrs. Stephen Wasley, Mrs. Seymour, Mrs Walter Young, Mrs. Frank Hughes and John O. Williams, by his second wife. Also a sister, Mrs. Grace Rowlands of Argoed, Wales.

The funeral will be held from the home Monday afternoon at 1.30 and from Bethel Baptist Church at 2. Rev. Gomer Evans will officiate. Internment will be in Fern Knoll Burial Park.

The Times Leader, Wilkes Barre Pennsylvania ~ February 1st, 1936.