ARTHUR L. ROBERTS. ILION, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.

Y Cymro Cerddgar o Ilion, New York.

Er yn gynar yn hanes y rhyfel bythgofiadwy hwn, mae Ilion wedi dod yn enw byd adnabyddus; gan mwyaf, am y rhan bwysig mae y Remington Arms Company wedi gymeryd i lanw galwadau y Cyngreiriaid am ei ynau i orchfygu llu y Kaiser creulawn. Mae yma o ddeg i un-fil-ar-ddeg o weithwyr wedi bod wrthi ddydd a nos yn ddyfal a phrysur, a llawer o'r cyfryw wedi enill cyflogau uchel, a'r gweddill yr un mor onest wedi gwneyd eu rhan am lawer llai. Mae yma weithwyr o bob cenedl bron, a chanoedd lawer o'r rhyw deg, pa rai sydd yn cynyddu yn eu rhif yn ddyddiol.

Yn mhlith y dorf fawr, mae canoedd o Gymry o bob cwr o'r wlad, y mwyafrif efallai o Ddyffryn y chwarelau yn Vermont a New York. Yn yr awyrgylch Gymreig mae llawer o ser dysglaer wedi ymddangos, yn flaenoriaid crefyddol, yn llenorion, beirdd, adroddwyr, dadganwyr, cerddorion, a.y.; ac amcan hyn o nodion yw dwyn i sylw y Cymry trwy y "Drych" un cymrawd neilliuol, sef Arthur L. Roberts, Cymro o waed a chalon, yn llawn o'r tan Cymreig, yn weithiwr diail mewn gwahanol gylchoedd, yn gerddor medrus, yn berdonegydd penigamp, yn gwmniwr dyddan, yn gymeriad glan a hawdd ei garu.

Deallwn iddo wneyd ei ymddangosiad cyntaf ar y blaned hon yn mhentref Penmachno, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1888. Yn gynar yn ngwanwyn ei oes syrthiodd mewn cariad a cherddoriaeth a'i hofferynau, a bu yn ddysgybl i'r awdwr enwog, Hamilton Gray, ac wedi hyn dan addysg y Cymro cerddgar Proff. Harry Evans, yn efrydu fel perdonegydd ac organydd. Yn fuan daeth i sylw ei genedl fel chwareuydd addawol, a bu yn gwasanaethu mewn lleoedd yn Nghymru cyn iddo symud i Liverpool, ae yno bu yn organydd yn eglwys y M. C. ar Princes Road am gyfnod.

Naw mlynedd yn ol ymfudodd i Canada, ac yn nechreu 1914 daeth trosodd i'r Talaethau, gyda'r efengylwyr Cosley a thra yn teithio gyda hwynt, daeth i sylw cyffredinol gyda'r rhan ddadganol o'r cyrddau, ac yn neillduol fel chwareuydd dihafal. Bu yn berdonegydd cynadledd yr Epworth League yn y Broadway Auditorium, ac yna yn teithio gyda'r efengylydd Honeywell, gyda pha un y daeth i Ilion ryw dair blynedd yn ol, ac er iddo ymadael gydag ef ar derfyn y gyfres cvfarfodvdd llwyddianus, ni fu yn hir cyn dychwelyd, gan i un o rianod glandeg Ilion anelu bwa serch i'w galon, nes y daeth yn hawddach ei drin a'i droi nag arfer, ac yn fuan aeth y ddau wrth allor serch yn Ilion i gwlwm gyda'u gilydd, yn aur rwymyn yr amod, i gydfyw mwy er gwell a gwaeth. Mae'r fun a'i rhwydodd o'i fodd, yn unig ferch i Mr. a Mrs. R. E. Jones (5 a 10 ct. stor) ac yn briod teilwng i'r Cymro amryddawn, yn meddu ar addysg uwchraddol, ac o duedd gerddorol, ac yn neillduol gymdeithasol.

Yn fuan, ymsefydlasant yma a chafodd yntau y swydd o Employment Manager yn y Remington Arms, yn mha un y pery. Mae y lluaws Cymry gyflogwyd ganddo yn tystio i'w garedigrwyid, ac i'w ofal am gael chwareu teg i bob Cymro teilwng, gyda'i wenau gwastad. Mae wedi bod wrthi yn brysur gyda'r canu er pan yma. Hyd yn ddiweddar bu yn cymeryd gofal y gan yn addoldy y Preshyteriaid, ac yn awr mae efe a'i briod yn yr un swydd yn addoldy yr M. E. Mae wrthi hefyd ar ganol yr wythnosau yn arwain y Community Singing gyda'i briod, i gynulliadau lluosog, a'r canu yn cyneu tan gwladgarol.

Mae ei allu yn eithriadol yn y cyfeiriad hwn. "He is an artist of exceptional ability. His interpretation of the music to which gospel songs have been set, borders on the sensational." medd un o newyddiaduron Pittsburg, Pennsylvani, pan oedd yno. Mae wrthi yn awr yn sefydlu cor meibion perthynol i'r Arms, ac hefyd cor meibion Cymreig. Er fod yma lawer o rwystrau i gael y cantorion at eu gilydd, gan fod llawer yn gweithio'r nos, a phlant y dydd, lawer o honynt yn gweithio hyd naw o'r gloch yr hwyr, eto credwn y bydd Ilion fel mor o gan gan Gymry gwych yn y dyfodol agos.

Nid ydym am broffwydo, na dweyd y gwelir cor o Ilion yn Eisteddfod y Calan yn Utica, gan fod yr amser yn brin, yr anhawsderau a nodwyd a phrinder rhai lleisiau arbenig; pa un bynag, os na thry y dyfodol yn siomiant, dysgwyliwn y caiff Utica glywed ein Boys. Deallwn fod doniau Cymreig y lle wedi addaw arlwyo cwrdd i'r Cymreigyddion yn fuan, a diau y bydd y cor yno, a cheir cyfle i weled gwrthrych hyn o ysgrif fel ag y mae, a gwell mantais i'w adnabod, ei edmygu, a'i garu nag a ellir gael trwy hyn o eiriau, na thrwy y darlun o hono ar wyneb y "Drych":

Un mawr ei barch, a Chymro byw — o urddas
Fel cerddor uchelryw:
Hynod ei ddoniau ydyw,
A chalon iach, Ilion yw.

Gan John C.

Y Drych ~ Tachwedd 14eg, 1918.