DANIEL HUMPHREY PETERS. COLUMBUS CITY, LOUISA, IOWA.

Ar len wele'n ddarluniol - naw bachgen
Bochgoch a dymunol;
Naw o frodyr unfrydol
Yn wir hardd heb un ar ol.

Ddeugain mlynedd yn ol, yr oedd llanc o Gymro o'r enw Daniel Peters yn enill ei fara 'menyn a chaws trwy weithio ar fferm yn ei ardal enedigol, sef cwm rhamantus Llanegryn, Sir Feirionydd. Cyn hir daeth. merch ieuanc landeg o'r enw Ann Humphreys, o ardal Llanfachraeth, yn yr un Sir, i weithio ar fferm gyfagos; ac fel y mae pethau rhyfedd iawn yn dygwydd weithiau, yn hollol sydyn a diarwybod, fe redodd y ddau ar draws eu gilydd. Ond yn hytrach na gwylltio a myned i guro, aethant i garu, ac yn lle rhoi clewtan iddo fe, rhoddodd hi ei chalon iddo, ac yn lle joinio'r army, joiniasant yr union, a gwnaed y ddau gariad yn wr a gwraig hyd yr adeg y byddant yn cael y "free ride" ddiweddaf mewn bocs o bren.

Cwm hardd a rhamantus ryfeddol, a chwm yn llawn o farddoniaeth, yw cwm Llanegryn; cwm rhwng bryniau a chreigiau crog, a "chwm culach na cham ceiliog." Ond ni ellir bwydo plant ar farddoniaeth, nac ychwaith godi teulu ar greigiau. Felly, gan fod y cywion mwynion man yn dechreu dod, a swn tyrfa fawr yn dylyn, bwriodd y tad a'r fam eu penau yn nghyd a bwriasant mai y cynllun goreu o dan yr amgylchiadau oedd symud i wlad well a mwy cyfaddas i godi plant. Ac felly cawn hwy yn glanio yn y wlad oreu o dan yr haul, ac yn dod yn syth i ardal Gymreig Long Creek, Iowa, ac heb ymdroi yn ymrod o ddifrif i'r un alwedigaeth ag Abraham, Isaac a, Jacob, sef magu a phesgi anifeiliaid. Ond fe gododd Jacob 13 o plant hefyd, ac felly yn bur debyg y gwnaeth Daniel, sef naw o feibion a thair o ferched. Ond er i'r hen Jacob gael un yn ychwaneg, fe ddylid cofio fod ganddo ef ddwy wraig, heblaw amryw o forwynion o'i gwmpas i wneyd ei gampwaith, tra na fu gan Daniel ond un, ac ar hyd ei fywyd heb forwyn.

Yn ystod tymor magu y plant, ni ddaeth ond un cwmwl du i dywyllu ffurfafen yr aelwyd ddedwydd hon, sef colli un o'r tair merch pan yn blentyn. Tra allan yn chwareu o gwmpas tanc dwr a ddefnyddid i ddyfrhau yr anifeiliaid, cwympodd iddo, a chafodd ei mam hi wedi boddi. Mae y gweddill o'r plant yn fyw ac yn iach, ac er fod naw o honynt wedi gadael yr hen aelwyd, y maent i gyd heb adael Long Creek.

Y mae y tad a'r fam erbyn hyn yn daid ac yn nain i amryw o wyrion, ond y mae y ddau yn edrych gystal a newydd; Dan mor ddoniol a chwareus a llanc, ac Ann fel "hogan iach un-ar-hugain oed," ac i bob golwg ddynol na chant y pleser o weled eu henwau yn ngholofn y marwolaethau am rawer o flynyddoedd.

Yn dra agos i dri-ugain—Ann a Dan
Yn deg gadd eu harwain;
A doed nerth i taid a nain
Ragor na phedwar ugain.

Gan William Owen, Cotter, Iowa.

Y Drych Gorphenaf 31ain 1919.