MR. ROBERT J. EDWARDS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Nos Fercher, yr 20fed cyfisol, cyfarfu lluaws o gyfeillion yn nghartref William Pritchard, pryd y cawsant oll y mwynhad o weled y ferch hynaf, Miss Lizzie Ellen Pritchard yn ymbriodi gyda Robert J. Edwards.Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. H. P. Morgan, Wilkesbarre, Pennsylvania. Cafwyd gwas a morwyn teilwmg o'r amgylchiad yn mhersonau John Edwards a Miss Nellie Pritchard, ac yr oedd yr ystafell wedi cael ei haddurno yn anarferol o brydferth. Wedi myned trwy y gwasanaeth briodasol, eisteddodd yr holl wahoddedigion o amgylch bwrdd helaeth oedd wedi ei hulio gyda phob math o ymborth o'r mwyaf blasus, y rhai a fwynhawyd yn helaeth ganddynt oll.
Wedi gorphen gyda'r wledd gorfforol, cafwyd drachefn wledd i'r meddwl mewn ymgomio, anerch, ac adrodd. Treuliwyd rhai oriau mewn modd hamddenaol ac adloniadol. Derbyniodd y par ieuanc roddion gwerthfawr gan nifer o'u hedmygwyr, a bore dranoeth ymadawsant am Efrog Newydd i fwynhau dyddiau melus eu mis mel.
Brodor o gymydogaeth Bethesda, Gogledd Cymru, ydyw y priodfab, ac y mae yn aelod selog ac yn swyddog ffyddlawn yn eglwys Gymreig yr M. E. yn Banigor. Gellir dweyd hyny hefyd am y briod-ferch, ac mai hi ydyw organyddes yr eglwys uchod.
Mae y naill fel y llall yn meddu ar gylch eang o gyfeillion mynwesol, pa rai sydd yn dymuno iddynt lwyddiant helaeth, hir oes, a dyddiau dedwydd.