OWEN WILLIAM OWENS. EDMUNDS COUNTY, SOUTH DAKOTA.
Ionawr 27ain, 1919.Mae yn bleser o'r mwyaf genyf hysbysu fod y Llanberisiaid yn nghylchoedd New York Mills ac Utica yn dymuno yn dda i Owen W. Rowlands, Ipswich, South Dakota, pan oedd yn cyraedd ei driugain mlwydd oed ar y 5ed o'r mis hwn. Mi fuasai yn dda gan bawb pe tae fo yn agosach, er cael tipyn o ymgom am yr hen amser gynt ar ochr yr Hafodydd.
Mae pawb yn dymuno llawer o flynyddoedd iddo eto, ac yn dymuno yn dda i Mrs. Rowlands a'r ferch, Jenet, am fod mor ofalus o hono ar wastadeddau South Dakota, ond ar ochr y Wyddfa mae o wedi cael yr iechyd, a'r nerth, a'i gryfder yn moreu ei oes.