MR. WILLIAM PARK PRITCHARD, SEATTLE, WASHINGTON.
Brawychwyd cylch Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth o glywed am farwolaeth y gŵr poblogaidd uchod ar y 26ain o Chwefror mewn ysbyty yn Seattle, Washongton, U.D.A., tua 68 mlwydd oed.Nid oes ond ychydig wythnosau er pan fu farw ei chwaer yn Lewpwl; ac y collodd ei fab, 36 mlwydd oed.
Ganed William yn hen amaethdy hynafol y Parc, Llanfrothen, ac yr oedd yn un o dua dwsin o blant. Pan yn llefryn ifanc, lluniaidd, gwasanaethai adref gyda'i dad hyd nes oedd tua 25 oed.
Yr oedd yn ddyn talgryf, dwy lath a thair modfedd yn nhraed ei sannau, yn ystwyth a chwim ei gorff a bu yn bencampwr am ymryson rhedeg i ben yr Wyddfa, yn ôl ac ymalen i Feddgelert, a rhedodd mor gyflym fel y rhyfeddodd yr edrychwyr; gwnaeth gamp drwy fod yn gerddwr cyflymaf o Borthmadog drwy Bont Aberglaslyn, Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth i Borthmadog.
Yr oedd hefyd yn neidiwr uchel penigamp. Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth, ac wrth ei fodd yn canu; enillodd droion mewn eisteddfodau am ganu, a chanddo lais bariton cyfoethog. Bu hefyd yn arwain cor yn Llanfrothen. Yn nyddiau ei ieuenctid yr oedd aelwyd y Parc yn lle diddorol a chlywid yn y gegin hen ffasiwn fawr; ganu godidog, gan fod ynddi rhwng y rheini a'r plant, a'r cefndryd, tuag ugain o gyfrif.
Yn y flwyddyn 1908 ymfudodd William i U.D.A, ac wedi bod mewn rhai mannau yn y Dwyrainberth symudodd i fod yn fugail defaid a chneifiwr i un o daleithiau canolbarth y wlad, nes o'r diwedd y cafodd ei hun yn Seattle, Washington, lle y priododd ferch o Groeslon, Arfon, a chadwai fusnes gwesty enfawr, a daeth ymlaen yn y byd, a magodd blant urddasol.
Cymerodd ran flaenllaw yng Nghapel Cymraeg y ddinas fawr honno ynglyn â cherddoriaeth y Cysegr, ac yr oedd yn ei afiaeth efo hen donau ac anthemau poblogaidd Cymreig. Bu yn arwain cymanfaoedd canu yn San Francisco, Vancouver, a lleoedd poblogaidd eraill hyd gyfandir mawr yr Amerig, oherwydd ei berson hardd a'i osgo bendefigaidd cai ddylanwad mawr ar y gynulleidfa. Yr oedd yn ŵr poblogaidd iawn yn ein plith cyn myned ohono i'r Amerig, ac yr oedd yr un mor boblogaidd ymysg Cymry America. Yr oedd ganddo ddawn brin o adrodd straeon digrif, ac fel ei dad, a Thomas Pritchard ei frawd, yn llawn arabedd a ffraethineb.
Daeth ar ymweliad a'r wlad hon yn 1925 a thrachefn yn y flwyddyn 1949, a chefais dreulio aml noson yn ei gwmni yn son am yr hen drigolion a'u nodweddion. Yr oedd o deimladau eithriadol o dyner ac ai yn floesg wrth geisio traethu ei hen adgofion.
Gohebwn ag ef yn achlysurol, a Nadolig diweddaf anfonodd mi ddarlun o'i deulu.
Loes ag ergyd iddo oedd colli William Moelwyn Pritchard, ei fab, yn gymaint fel y methodd a'i dal. Aeth drwy'r lawfeddyginiaeth yn llwyddiannus, ond bu farw o'r parlys ymhen deuddydd wedyn.
Gadawodd ar ei ôl, ei wraig, a thri neu bedwar o blant i alaru, ac o'r teulu lluosog oedd yn y Parc hanner canrif yn ôl nid oes ond Richard ac Evan (ei frodyr) a Sarah yn fyw; hefyd ei gefnder, John Samuel Williams, Ramoth, gyda'r hwn y gohebai yn gyson, ac a arhosai gydag ef yn ystod ei ymweliadau a'r wlad hon. Cydymdeimlaf a hwynt yn eu profedigaeth lem.