HUMPHREY GRIFFITH. KIRKLAND, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ymgynullodd tyrfa ddifyr yn nghartref Mr. a Mrs. Humphrey Griffith. 1301 Seymour Avenue, nos Wener diweddaf, i gyd-ddathlu a hwy eu priodas arianaidd, a mwynhawyd noswaith hwyliog. Yr oedd oddeutu haner cant o gyfeillion yn bresenol, a rhoddwyd awenau y cyfarfod yn nwylaw R W. Owen, llywydd y Cymreigyddion, ac yr oedd ar y rhaglen ganeuon gan Miss Bessie Thomas, Miss Jennie Jones a David Williams; adroddiad, Mrs. R. Morris Williams; anerchiadau barddonol gan W. S. Roberts a W. T. Williams; anerchiadau gan R. G. Lloyd, R. Morris Williams, W. T. Jones, Griffith G. Jones, Griffith Jones (West St.), John L. Evans, Ellis H. Williams, Richard T. Jones, Hugh R. Williams, Henry O. Hughes a'r Parch. W. Caradog Jones.Ar ran y cyfeillion oedd yn bresenol, cyflwynodd Hugh Hughes, y "Press," amryw o anrhegion arian gwerthfawr i Mr. a Mrs, Griffiths, fel amlygiad o'u teimladau da a gwerthfawrogiad o'u cyfeillgarwch. I gloi i fyny gyfarfod difyr, arlwyodd y gwragedd luniaeth rhagorol i'r cwmni.
Priodwyd Mr. a Mrs. Griffith yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru, a daethant i'r wlad hon oddeutu 15 mlynedd yn ol, gan ymsefydlu i ddechreu yn Vermont, ac yna yn y ddinas hon.
Mab ydyw H. G. i Thomas a'r ddiweddar Elizabeth Griffith, Gerlan, Clwtybont, ei fam yn ferch i'r diweddar Humphrey Roberts, y sanwr, Talywaenydd, Ffestiniog.
Cyn ei ddyfodiad o Gymru, yr oedd yn amlwg gyda'r mudiad llafur, ac wedi eistedd ar bwyllgorau pwysig, y cyngor gweithiol a chyffredinol o Undeb y Gweithwyr. Tra yn y ddinas hon, mae wedi bod yn amlwg a llafurus gyda mudiadau y Cymry, yn y Cymreigyddion. yn nglyn a'r Eisteddfod, ac yn eglwys Bethesda, a.y.
Gwyr darllenwyr y "Drych" am ei allu llenorol. ac am yr ysgrifau difyr ac addysgiadol o'i eiddo ag sydd wedi ymddangos. Mae iddo ef a'i briod ddau fab wedi gwasanaethu eu gwlad yn ystod y rhyfel fawr yma, un wedi treulio dwy flynedd yn Ffrainc, ac wedi bod trwy frwydrau mawr y cyfnod yna. Merch yw Mrs. Griffith i'r diweddariaid Hugh a Mary Williams, Ysgoldy, Clwtybont, ac y mae hi yn goron i'w gwr, yn wraig dawel, garedig a hoffus. Bydded iddynt gyd-fwynhau blwyddi lawer eto o fywyd priodasol dedwydd.