PARCH. EDWARD S. ROBERTS. ROCKLAND, WISCONSIN.
Gyda phleser mawr a chydlawenydd y siglais law a'r gweiniaog ieuanc, Edward S. Roberts y dydd o'r blaen yn Chicago, pa un sydd yn wir deilwng o bob cefnogaeth a chydymdeimlad, oblegid ei ymdrech ddiflino i gyraedd y nod uchel ac anrhydeddus a osodwyd ganddo, sef ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Cymerodd hyny le brydnawn dydd Mercher, Mehefin 19eg, 1918, yn y Gymanfa Fethodistaidd yn Randolph, Wisconsin, lle y gwasanaethai gweinidogion o fri; yn eu plith, Parchedigion M. E. Evans, Mankato; William O. Williams. Granville, New York, ac eraill. Pasiodd yr arholiad gydag anrhydedd uchel iawn.Mab ydyw i Mr. John Roberts (Cutter), Cloth Hall, Bethesda. Gogledd Cymru; ei anwyl fam, yr hon sydd tu hwnt i'r llen, yn chwaer i'r diweddar Barch. John O. Jones, gynt Wilkes-Barre, Pennsylvania, diweddarach Slatington, Pennsylvania. Mae iddo bedair chwaer yn Chicago, sef Mrs. R. O. Morris, Mrs. A. T. Evans, Mrs. Griffith Jones, a Miss Jane Roberts. Bu y ddwy flaenaf yn treulio ychydig ddyddiau yn Randolph, ac yn mysg y tystion er rhoddi arbenigrwydd ar yr amgylchiad hapus. Dechreuodd Mr. Roberts baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth gyda'r enwad parchus y Wesleyaid yn yr Hen Wlad, a bu yn myfyrio yn ysgol Clynog, Gogledd Cymru.
Daeth i Chicago tuag wyth mlynedd yn ol, ymunodd a'r M. C., ac yn fuan wedi hyny anfonwyd ef i Goleg Ripon, Wisconsin. Gweithiodd yn egniol a diwyd, a graddiodd ac enillodd ei B. A. yn y flwyddyn 1916, wedi myned trwy 'four year course' mewn tair blynedd a haner. Cafodd ei neillduo i ofalu am eglwys Dodgeville Wisconsin, a bu yno yn gysurus a llwyddianus am naw mis. Dychwelodd i Chicago, ac aeth yn fyfyriwr i'r Mc-Cormick Seminary, ac wedi hyny gwahoddwyd ef i Rockland, Wisconsin, i ddyfod i wasanaethn dwy eglwys. sef Fish Creek a Blaen y Dyffryn am flwyddyn. Daeth yr amser hwnw i derfyniad y mis diweddaf, ond rhoddwyd galwad unfrydol iddo aros i'w bugeilio; yntau a dderbyniodd. Mae yr uniad yn un hapus.
Mae Mr. Roberts yn ysgolor campus yn yr ieithoedd Groeg a Hebraeg, yn fyfyriwr caled a llafurus, yn dduwinydd galluog, yn bregethwr gonest ac effeithiol. Mae wedi ei gynysgaeddu a chynfeddfau deallol o radd uchel, darfelydd gwir gyfoethog, tymeredd wresog a llais cyfrolawg a soniarus wedi ei ddysgyblu yn dda, yn effro a byw i ddyledswyddau pwysig yr Efengyl. Yr ydym yn dymuno iddo bob llwyddiant ysbrydol a thymorol, ac y daw yn bregethwr mawr a phoblogaidd.
Tra yn ein dinas bum yn ei gymdeithas yn nghartref ei chwaer a'i phriod. Mr. a Mrs. Griffith Jones, 3359 Lemoyne Street, nos Fawrth. Mehefin 25ain; y ty yn llawn o wahoddedigion, a chafwyd amser dyddorol a hapus, a gweinyddodd yr ordinhad o fedydd, pryd y derbyniwyd John Griffith, mab bychan y teulu uchod i gynulleidfa defaid Crist. Gwasanaethodd hefyd y dydd canlynol trwy fedyddio William Leslie, mab bychan Mr. a Mrs. Robert Evans. 1142 Cristiana Avenue, yn ei gartref.
William Ishmael Jones. Chicago. Illinois.