GRIFFITH GRIFFITH THOMAS. LOS ANGELES, CALIFORNIA.

Genedigol ydyw o Pontrhythallt, Sir Gaernarfon; yn fab i'r diweddar Edward J. a Catherine Williams, Bryn Pistyll, ac yn frawd i John E. Williams, ysgrifenydd yr eglwys Gymreig, a nai i Mr. W. Y. Williams a J. J. Williams, Spokane.

Treuliodd Evan y rhan flaenaf o'i dymor gweithio yn chwarel Dinorwig, ac arferai fyned foreu a hwyr gyda thren y gweithwyr, lle yr oedd yn ffafrddyn ei gydweithwyr.

Yn 1912, daeth i'r wlad hon, at ei frawd, John, i Tyler, Washington.

Hydref, 1917, gadawodd Spokane am Camp Lewis, Washington. Oddiyno aeth i Ffrainc gyda Co. F., 316th Engineers Bu yno mewn brwydrau caled iawn, sef St. Mihiel, Meuse, Argonne, Ypres, Lys, a.y. Cafodd waredigaethau rhyfedd aml i dro, a'i brofiad ydyw, "Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth, ac i'r Arglwydd ein Duw y perthyn diangfau rhag marwolaeth."

Yn gynar ddechreu Mai, 1919, daeth yn ol i Camp Lewis, a chafodd ei ryddhau o'r fyddin. Talodd ymweliad a Spokane, a chafodd dderbyniad brwdfrydig iawn gan bawb o'i gyfeillion. Wedi ychydig seibiant, aeth yn ol am Seattle, lle y bwriada aros am beth amser.
W. E. M.

Y Drych Mehefin 26ain, 1919.