RICHARD J. OWEN. LAKE CRYSTAL, MINNESOTA.

Pleser o'r mwyaf genyf ydyw cyflwyno i sylw darllenwyr y "Drych" yr ysgrif fechan hon, gyda darlun o'r gwrthrych, y boneddwr ieuanc parchus Richard J. Owen o Athrofa Dduwinyddol Colgate, Hamilton, New York, lle y bydd yn graddio yn anrhydeddus yn mhen ychydig ddyddiau o'r coleg clasurol hwnw.

Un o fechgyn Meirion ydyw Mr. Owen, a ganwyd a magwyd ef ar un o aelwydydd goreu Cymru, yn ardal Parch. R. J. Owen. ramantus Blaenau Ffestiniog. Adwaenwn ei dad a'i fam, a chofiaf yn dda am ei ddau daid a'i ddwy nain. Mab ydyw i John J. Owen ac Ellen Owen; ei dad yn un o blant John a Hannah Owen, Bronygors, y Rhiw, Ffestiniog; a'i fam yn ferch ieuengaf John Williams, Ty'r Capel, y Rhiw, tad yr ysgolor a'r hynafiaethydd Cymreig enwog, Griffith J. Williams, a brawd i'r diweddar hybarch weinidog, Griffith Williams, Talsarnau. Y mae ei dad yn flaenor yn nghapel Bowydd (T.. C.), Ffestiniog, er's amryw flwyddi maith; felly gwelir fod ein cyfaill hoff wedi ei fagu a'i feithrin yn nghanol awyrgylch grefyddol un o aelwydydd goreu Cymru.

Daeth Mr. Owen i'r wlad hon yn y flwyddyn 1907. Bu yn Colorado am tua blwyddyn, yna daeth i Dalaeth William Penn, gan weithio tua Wilkes-Barre a Danielsville. Yn 1912 daeth i Vermont gan weithio yn y llech-chwarelau, lle y daeth ar unwaith yn boblogaidd ac yn fawr ei barch o herwydd ei gymeriad prydferth a glan. Gyda llaw y mae Mr. Owen yn chwarelwr medrus, ac, ei hun, yn weithiwr gonest bob amser yn gwneuthur ei ddyledswydd. Yn niwedd 1905 teimlodd "nerthoedd y tragwyddol Ysbryd" yn gweithio yn ddystaw gyda dylanwad ar ei enaid, ac yr oedd y dylanwadau yn aros.

Yn mhen tri mis ar ol iddo ddyfod i ardal Farnamsville, Vermont, codwyd ef yn flaenor; yr oedd yn anfoddlawn iawn i ymgymeryd a'r swydd bwysig o herwydd ei fod yn teimlo ei hun yn rhy ieuanc. Ond wedi peth ystyriaeth ar ol brawddegau ffraeth a miniog y diweddar Anrhydeddus John J. Jones, Castleton, penderfynodd ei chymeryd. Yn gweled ei gymwysder a phrydferthwch ei gymeriad, anogwyd ef i fyned i'r weinidogaeth. ac anfonwyd ei enw fel ymgeisydd i'r Cyfarfod Dosbarth gan eglwys Hyde Park, a derbyniwyd ef yn llawen.

Gweithiodd ei ffordd trwy y Troy Conference Academy yn Poultney, Vermont, lle y daeth allan yn anrhydeddus; ac yn y cyfamser yr oedd yn gwasanaethu eglwysi y cylch i foddlonrwydd cyffredinol. Yn 1916 aeth i Athrofa Dduwinyddol Colgate, lle mae yn graddio yn awr yn yr English Course. Yn ystod ei wyliau athrofaol bu Mr. Owen yn gwasanaethu eglwysi Montreal, Pennsylvania a Minnesota, ac am y deunaw mis diweddaf, gwasanaethodd eglwysi Penygraig, French Road ac Enlli, Oneida County, New York, a'r Sabboth o'r blaen cymerwyd pleidleisiau yr eglwysi hyn yn nglyn a'r dyfodol, a rhoddodd pob un o'r tair eglwys wahoddiad cynes iddo i fyned i'w bugeilio heb un bleidlais yn ei erbyn. Bydd yn dechreu ar ei waith fel gweinidog ddechreu y mis hwn.

Y mae genym y parch mwyaf i Mr. Owen. a chredwn yn gydwybodol ei fod yn wr o ddifrif ac amcan mawr ei fywyd ydyw bod yn offeryn yn llaw Duw i droi pechaduriaid o gyfeiliorni eu ffyrdd.

Dyma gymeradwyaeth yr athraw duwinyddol yn Colgate (Dr. Starrat) i draethawd Mr. Owen ar "Anfarwoldeb:" I have just read your paper on 'Immortality' with great interest. It shows that you have put time and care upon its preparation, and I am sure you must feel that it is worth while. I am very glad to give you the grade A. (yr uchaf). It would be a pleasure to me if I could see you graduate, but I am sorry to say that I must be away that day. Be assured that my interest will always follow you. I have the utmost confidence in you and assurance that you will always be a very helpful influence among the people whom you serve."

Dymunwn i Mr. Owen bob llwyddiant yn ei faes newydd ac yn ei gylch gweinidogaethol cyntaf. Credwn yn gydwybodol fod ynddo y "meddwl yma yr hwn hefyd oedd yn Nghrist Iesu," a'i brofiad heddyw er yr addysg a dderbyniodd ydyw "canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio."
Gan R. O. Davies, Hartford, Connecticut.

Y Drych Ebrill 17eg, 1919.