JOSEPH WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
LLYTHYR O DDEHEUBARTH FFRAINC.
Derbyniwyd y llythyr isod oddiwrth Joseph Williams (Caeclyd), Utica, yr hwn sydd yn awr drosodd yn Ffrainc gan Hugh W. Davies, West Street:Rywle yn Ffrainc,
Mehefin 6ed, 1918.
Anwyl Hugh a Theulu Oll. Dylaswn fod wedi anfon yn gynt, ond mae'n debyg eich bod yn gwybod na chawn ni ond ysgrifenu dau lythyr mewn wythnos, ac fel y gwyddoch fod genyf lawer o waith ysgrifenu. Credaf hefyd y cawn ysgrifenu mwy cyn bo hir. Yr wyf fi yn mwynhau iechyd, ac mae pethau yn well nag oeddwn yn feddwl y buasent gyda fi; buasai yn bechod arnaf gwyno. Rhaid cofio mai yn y fyddin yr ydwyf yn awr, ac nid oes dim dysgwyl cael pob peth yr un fath a phe buaswn gartref. Mi fydd hyn yn ddaioni mawr i lawer o honom i werthfawrogi ein cartrefi a'n cyfeillion, os byw i ddod yn ol.
Mae yma wlad braf iawn, ac yr ydym ninau yn nghanol y wlad mewn pentref yn Neheudir Ffrainc. Yr ydym yn cael tywydd cynes, ac maent yn brysur gyda'r gwaith, merched i gyd sydd yn gweithio yn y cynauaf, gan fod dynion yn brin iawn; maent i gyd yn y ffrynt. Pe gwelech chwi lle 'rwyf yn cysgu, mewn hen dy. Y mae yma lawer o hen dai gweigion fel Tai Isaf a Tai Uchaf yn Cae Clyd, Ffestiniog, ac felly yr ydym yma ac acw ar hyd y pentref yma. Mae y lle yn gwneyd i un feddwl am Gymru ac am Cae Clyd. Yr wyf yn teimlo reit gartrefol; ac yn cael llawer o hwyl. Fuasech chwi byth yn meddwl fod y fath beth a rhyfel yn bod yn y rhan yma o'r wlad; mae pob peth yn reit heddychol. Ond mae y bobl yma yn sicr o fod yn dyoddef gan fod bwyd a phob peth yn brin iawn yma. Yr ydych chwi yna yn byw fel breninoedd wrth fel y mae y bobl yn ei gael yma. Ond yr ydym ni fel milwyr yn cael digon, ac yn cael ein 'treatio' yn dda.
Wythnos i heddyw oedd Decoration Day, ac yr oedd genym 'parade' yn y boreu, a chawsom anerchiad gan ein caplan fel gwasanaeth coffa. Yn y prydnawn, aeth amryw o honom i dref tuag wyth milldir oddi yma. Wrth gwrs, cawsom half holiday, ond yr oedd yn rhaid cael pass i fynd i'r dref yma, ac yr oeddwn yn dygwydd bod yn un o'r rhai lwcus i'w gael. Beth ddyliech chwi, cyfarfyddais a Chymro o Gaerdydd yno, wedi cael ei glwyfo, ac yn y French Hospital. Yr oedd ei fraich mewn sling. Pe buasech chwi yn ei glywed yn dweyd fel y mae y Cymry wedi dyoddef yn y rhyfel yma.
Yr oedd fy ngwaed yn twymo wrth ei glywed yn dweyd. Lladdwvd dau frawd iddo yn nechreu y rhyfel, ac mae yntau wedi cael llawer i ddiangfa gyfyng; mae'n syndod ei fod yn fyw. Yr oedd yn falch o fy nghyfarfod, ac fe roddais bres iddo i brynu tybaco a prynais dipyn o sweets iddo. Yr oedd yn dygwydd siarad gyda boys oeddwn i yn adnabod o'r Regiment yma ar y stryd, ac felly y cyfarfyddais ag ef.
Fuaswn i yn synu dim pe y cyfarfyddwn a rhai o foys 'Stiniog, "Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd." Buaswn yn leicio cael cyfle i fynd i Paris cyn dod yn ol, os byw i ddod yn ol i Utica. Wn i ddim pa bryd y byddwn ni yn mynd i'r ffrynt: dysgwyl y gynau yma i weithio arnynt yr ydym. Y Duw mawr a wyr beth ddaw o'r rhyfel fawr yma: mae yn costio yn ddrud i lawer. Mae Ffrainc mewn mourning i gyd, a fu erioed fwy o blant amddifaid nag sydd y dyddiau hyn. Mae yr Almaeniaid yn gallu bod yn greulon iawn, a bydd cyfrifoldeb mawr ar rywun. Peth braf ydyw bod a chydwybod dawel, onide.
Wel, mae'n dda genyf fy mod wedi dal ar y cyfleusderau pan oeddynt yn fy ngafael. Mae crefydd yn brin iawn yn y wlad yma. Mae'r dydd Sabboth yn fwy o ddydd marchnad ganddynt. Mi fyddaf yn pasio eglwys Babyddol ar foreu Sul wrth ddod yn ol o frecwast, a dyna lle y bydd y ffermwyr yno yn gwerthu eu cynyrch, menyn, wyau, a.y., o flaen yr eglwys. Dyna yw Pabvddiaeth. Mae genym ni wasanaeth yn yr avyr agored ar foreu Sul am un-ar-ddeg. y seindorf yn gorymdeithio yn y stryd, ac yn chwareu "Onward Christian Soldiers," a ninau yn gorymdeithio gyda hwy. Mae yn olygfa hardd, ac yn ysbryd da.
Y Sul diweddaf, yr oedd yn Sul cymundeb i'r Protestaniaid yn y Y. M. C. A. unwaith yn y mis, gan fod ysgrifenydd y Y. M. C. A. yn weinidog ordeiniedig (ordained minister), ac efe oedd yn gweinyddu yr ordinhad. Hefyd y Sul nesaf, mae genym Bible Class am ddeg o'r gloch. Fel y gwelwch, ein bod yn addoli yma hefyd; mae y Duw mawr yn cael clod gan ei blant. Mi fyddaf yn gweld Evan reit aml; mae yntau yn iach a chalonog. Sut y mae Richard J. Owen; cofiwch fi ato.
Wel, dyna Winnie, fy chwaer, wedi myned o'i phoenau onite; fe ddyoddefodd lawer yn dawel. Wel, wyddom ni ddim pwy fydd nesaf. Bod yn barod ydyw'r cwestiwn. Mi fydd genym ni lawer iawn i'w ddweyd wrthych os byw i ddod yn ol. 'Rwyf yn credu mai darlithio y byddaf. Bydd reit hawdd siarad ar ol dod yn ol. Beth ddyliech chwi, ddoe aethom ni am hike, cychwyn saith o'r gloch y boreu, ac yn ol am un-ar-ddeg, gyda ein packs ar ein cefnau wedi drilio trwy'r dydd. Ond nid oedd rhaid i ni ddim codi yn foreu dranoeth. Gyda chofion cynes atoch oll.
JOE.
Y Drych ~ Gorphenaf 11eg, 1918.
JOSEPH WILLIAMS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
J. G. Williams Dies on Coast.
Joseph G. Williams, 73, of Los Angeles, California, formerly of Utica, where he was assistant treasurer of the Kellogg Lumbar Company, for several years, died November 1st in California, Lutheran Hospital of a brain tumour.He was born in Blaenau Ffestiniog, North Wales. He came to Utica in 1910.
He was graduated from the Utica School of Commerce. He was associated with the Kellogg Lumbar Company, until 1945 when he and his wife, the former Priscilla owens, moved to California.
In Los Angeles he had been employed by the Broadway Department Stores. He was last associated with the University of Southern California as cash auditor.
In Utica, he was a member of Moriah Presbyterian Church Liberty Lodge of Masons, Mohawk Valley Consistory, Ziyara Temple and its Chanters.
He leaves his wife.
The funeral will be at 11 tomorrow from the Williams Funeral Home with the Rev. R. Glynne Lloyd, pastor of Moriah Church, officiaiting. Burial will be in Forest Hill Cemetery.