CORP. LLOYD GEORGE OWEN. CHICAGO, ILLINOIS.

Dyma ychydig nodiadau am Corp. Lloyd George Owen, 4434 Van Buren Street, ac ychydig nodiadau am dano i sylw darllenwyr y "Drych."

Mab ydyw i Mr. a Mrs. Owen Owen, Tai'r Mynydd, Bangor, Gogledd Cymru. Y mae ei dad yn gyfaill mynwesol i Brifweinidog Prydain Fawr, a'r ffaith yna sydd yn cyfrif am fod gwrthrych hyn o sylwadau wedi cael yr enw Lloyd George. Pan oedd y Cymro gwladgarol a chenedlgarol o Griccieth (sydd erbyn hyn wedi dod yn un o alluoedd penaf, os nad y penaf, y byd) yn cynyg ei hun fel ymgeisydd Seneddol dros Sir Gaernarfon am y tro cyntaf, ei gyfaill, Mr. Owen Owens, oedd y cyntaf i arwyddo ei "nomination papers."

Gadawodd ein cyfaill ieuanc, Corp. Owen, wlad ei faboed oddeutu saith mlynedd yn ol (1912). Cyfeiriodd ar ei union i'r ddinas hon, at frawd iddo oedd wedi ei flaenori i'r wlad hon, ac wedi sefydlu cartref gyda Richard Owen, Van Buren Street, ar y cyntaf. Yn ddiweddarach, symudodd at ei chwaer, Mrs. Robert Griffiths, 4434 Van Buren Street, gyda'r hon y cartrefa yn bresenol. Yn fuan wedi cyraedd yma, cafodd le fel clerc yn ngwasanaeth cwmni y Chicago, Milwaukee and St. Paul R. R. Ar derfyn tair blynedd o wasanaeth cymeradwy, cafodd swydd o'r un nodwedd gyda Libby, McNeill and Libby, Chicago, ac yn ngwasanaeth y cwmni llwyddianus hwn yr ydoedd pan y i clywodd "corn y gad" yn ei alw ef, fel llu o ddewrion ieuainc eraill o'i flaen, ac ar ei ol, i ymladd brwydrau rhyddid a chyfiawnder dros ei wlad, ac ar yr ail ddydd o fis Mehefin, 1918, atebodd yr alwad, drwy ymuno gyda'r 21st Infantry, a'r diwrnod canlynol gadawodd y ddinas am Jefferson Barracks, ac yn mhen tridiau y mae y gatrawd y perthynai iddi yn symud am wersyll San Diego, ac yn ddiweddarach am wersyll Kearney.

Medi 5ed, cafodd ein cyfaill ei drosglwyddo oddiwrth gatrawd y 21st at yr 81st, a'i ddyrchafu yn Corporal.

Rhagfyr 18fed, y mae y gatrawd hon yn gadael am Camp Grant, Chicago. Pan ar ei ffordd yn ol, cyfarfyddodd Corp. Owen a damwain ddifrifol drwy gael ei daflu o'r cerbyd yn ymyl Prescott, Arizona, tra yn teithio gyda chyflymdra mawr. Cymerwyd ef i'r ysbyty yn y lle a nodwyd, a bu mewn cyflwr anymwybodol am lawer o ddyddiau. Bu yma am saith wythnos yn dyoddef yn fawr oddiwrth "concussion of the brain a fractured ribs." Modd bynag, da genym hysbysu drwy fedrusrwydd y meddygon a mawr ofal y nyrsod oedd yn gweini arno, gwellhaodd yn ddigon da i fedru dylyn ei gatrawd i Camp Grant, er mawr lawenydd i'w berthynasau a'i gydnabod oll.

Chwefror 12fed, 1919, cafodd ei ryddhau yn anrhydeddus o wasanaeth y llywodraeth, ac er's wythnosau bellach y mae wedi ail ymaflyd yn ei ddyledswyddau gyda chwmni Libby, McNeill and Libby.

Pan gartref yn Nghymru, yr oedd yn aelod o eglwys y Tabernacl (M. C.), Bangor, ac yna bwriodd ei goelbren gyda'r ddeadell yn Hebron, a bu yn gwasanaethu yr eglwys fel ysgrifenydd arianol am flwyddyn. Heblaw y perthynasau a nodwyd eisoes, y mae iddo chwaer arall yn y ddinas hon, sef Miss Catherine Jane Owen, Washington Blvd., a brawd i'w fam ydoedd y diweddar Mr. John Solomon Jones, Johnstown, Pennsylvania, gyda'r hwn y bu ar ymweliad beth amser yn ol.

Yr ydym yn ei longyfarch yn fawr ar y waredigaeth gyfyng a gafodd, megys "o safn y bedd ac angeu," ac yn mawr hyderu y bydd yr amgylchiad profedigaethus hwn yn ei hanes o dan fendith Duw yn foddion i'w ddwyn i ymdeimlo o'r newydd ei rwymedigaeth i'r Hwn achubodd ei fywyd, ac ar bwys y waredigaeth i ymgysegru o'r newydd yn Ei wasanaeth yn llwyrach a ffyddlonach nag erioed. Hyn gyda'r dymuniadau goreu am ei lwyddiant yn dymorol.
Cyfaill.

Y Drych Mehefin 12fed, 1919.