MR. JACK (WILLIAM) EVANS, BELFAST, MAINE.

Dyma gymeriad lliwgar iawn a ymfudodd i'r America (ar ôl bod yn Canada am gyfnod byr) oherwydd iddo a'i chwaer gael eu gwneud yn amddifaid rhywbryd rhwng 1914 a 1925. Yn America aeth i'r diwydiant olew a daeth yn gyfoethog iawn.

'Roedd ei dad, William Henry Evans yn cadw siop ddillad ar Stryd Fawr, Porthmadog ac yn ddyn amlwg yn y dref. Fe laddodd ei dad ei hunan fis Mawrth 1914, mae'n debyg oherwydd achos cyfreithiol yn ymwneud â'r busnes. 'Roedd yn aelod blaenllaw o'r blaid Geidwadol ac efallai fod ei fusnes yn gwneud colled oherwydd fod pobol yn cadw draw o'i siop fel teyrngarwch i'w haelod seneddol, y Rhyddfrydwr David Lloyd George. Ei wraig oedd Catherine (neu Kathleen) Kinley o Finsbury Park, Llundain (neu o Froome), a hyd yma dwi wedi methu cael cadarnhad pam 'roedd y ddau blentyn yn amddifaid yn fuan wedi marw eu tad. William Karron Evans oedd enw Jack ar y dechrau, ond mae'n debyg fod ei fam wedi ei newid i John Karron Evans yn fuan ar ôl marwolaeth ei gŵr, oedd hefyd yn William.

Er bod Jack Evans wedi treulio bron y cyfan o'i oes yn America nid anghofiodd am ei gysylltiadau â Chymru ac yn arbennig ei dref enedigol, Porthmadog. Trefnodd fod cinio mawreddog yn cael ei gynnal yng Ngwesty Plasgwyn, Pentrefelin ar Gorffennaf 31 1987, i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. 'Roedd fy mam, Iona Roberts yn y cinio, ond nid fy nhad gan iddo farw yn 1982.

Tua amser y cinio paratodd drefniant angladdol iddo ef ei hun, pan ddeuai'r amser, i fynd a'i lwch at aelodau eraill y teulu ym Mhorthmadog. Bu farw Jack yn U.D. America yn Mehefin 1991, ond ym Mhorthmadog y cafwyd y seremoni angladdol. Ni welodd tref Porthmadog unrhyw beth tebyg erioed, prosesiwn mawr, drwy'r brif stryd yn cael ei arwain gan fand Jas enwog o New Orleans ac yna i dilyn, yr holl alarwyr, Côr Meibion Madog ac ar y diwedd yr hers yn cael ei thynnu gan ddau geffyl du. [Dau lun i'w cael ar y lincs.] Mae'n debyg fod yr angladd wedi costio tua £250,000 yn 1991. Dyma frawddegau cyntaf beth sydd ar wefan "North Wales Live" ar hyn o bryd:

"A SPECTACULAR funeral, spearheaded by a New Orleans jazz band, gave a millionaire businessman a fitting farewell and brought a whole town to a standstill. The Herald devoted extensive coverage in June 1991 to the death of Porthmadog native and multi- millionaire oil baron Jack Evans, who died aged 84."

'Roedd Jack wedi cefnogi nifer o unigolion ac achosion yng Ngymru yn yr wythdegau. Daeth i Borthmadog yn 1987 i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ogystal a'i dŷ yn Belfast, Maine U.D. America, roedd tŷ sylweddol arall ganddo yn Jacksonville, Florida.

Derbyniwyd drwy garedirwydd Mr Guto Roberts.